Adnoddau ar gyfer ymchwilwyr
1. Prif adnoddau
|
![]() 1921-2010 "Y Dduw bo'r diolch a roes y mi ... gennat y'w dhybennu [ei eiriadur] drwy lauurboen anorphwys, drwy rynn ag annwyt, pericl am vy iechyt lawer gwaith ..." -- Rhagymadrodd Thomas Wiliems i'w Eiriadur (LlGC Pen 228, xvi, [1609]). |
|
|
|
2. YmwelwyrCroesewir ymchwilwyr sydd am ddefnyddio'r casgliad o slipiau neu sydd am ymgynghori â'r drafftiau o erthyglau anolygedig. Serch hynny, prin yw'r lle ar gyfer ymchwilwyr, ac oherwydd pwysau'r gwaith, ni ellir cynnig ond y cymorth mwyaf elfennol iddynt. Nid yw'n angenrheidiol trefnu ymweliad ymlaen llaw, ond byddai'n syniad da gwneud hynny os bwriedir teithio o bell. Mae'r staff yn gweithio oriau hyblyg, ond fel arfer y mae'r swyddfa ar agor o 9:00 tan 1:00 ac o 2:00 tan 5:00 bob dydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio'r cyfnod rhwng y Nadolig a Dydd Calan, wythnos adeg y Pasg, a Gwyliau Banc eraill.
Lleolir swyddfeydd y Geiriadur mewn adeilad a rennir gyda'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd wrth ochr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, tua milltir o ganol tref Aberystwyth a llai na milltir o'r orsaf reilffordd a bysiau. Gellir cael gwybodaeth am y gwasanaeth trenau rhwng Llundain (Euston), yr Amwythig, ac Aberystwyth gan National Rail Enquiries ac archebu tocynnau. Mae tacsis ar gael y tu allan i'r orsaf reilffordd, ac y mae'n bosibl dal unrhyw fws Arriva sy'n teithio i'r gogledd o'r orsaf fysiau y tu allan i Barc Siopa Rheidol sydd yn agos i'r orsaf reilffordd. Y mae'r bysiau yn stopio ar waelod lôn breifat y Llyfrgell Genedlaethol.
Y mae lôn breifat y Llyfrgell yn
drofa oddi ar Ffordd Penglais (y brif ffordd i Fachynlleth o'r dref
(A487)) yn union islaw Neuadd Pantycelyn a champws Penglais Prifysgol
Cymru, Aberystwyth. Gellir parcio'n ddi-dâl ym maes parcio'r Llyfrgell
Genedlaethol, a deuir o hyd i swyddfeydd y Geiriadur drwy gerdded ar hyd
y llwybr o flaen prif adeilad y Llyfrgell, ond yn lle mynd i mewn i'r adeilad
hwnnw drwy'r brif fynedfa, dylid parhau i ddilyn y llwybr i'r pen eithaf.
Ni ddylid parcio o flaen adeilad y Llyfrgell. |
![]() 1921-2009
"... ist es wohl das vielseitigste alles keltischen
Wörtbücher." |
|
|
|
|
|
3. YmholiadauFel y gellid ei ddisgwyl, y mae ateb ymholiadau yn arafu'r gwaith o ysgrifennu a golygu'r Geiriadur. Serch hynny, y mae'r staff yn fodlon ateb cwestiynau syml sy'n ymwneud mewn rhyw ffordd â chasgliadau'r Geiriadur. Ar gyfer ymholiadau geiriol syml, mae Geiriadur ar lein Prifysgol Llanbedr Pont Steffan a geiriadur Cymraeg a Saesneg ar lein Mark Nodine yn ddefnyddiol iawn a hefyd eiriadur Cymraeg ac Almaeneg Sabine Heinz a Johannes Heinecke. Dylai'r rheiny sydd â diddordeb mewn siecio sillafu yn y Gymraeg weld gwasanaeth siecio sillafu ar lein Mark Nodine a phecyn gwirio sillafu CySill Canolfan Bedwyr sydd hefyd yn gyfrifol am Wirydd Sillafu Cymraeg Microsoft Office XP (sydd ar gael am ddim o wefan Microsoft a'r offer iaith yn Office 2003 ac Office 2007). Fel rheol, nid atebir ymholiadau yn ymwneud ag enwau lleoedd gan nad yw casgliadau'r Geiriadur yn ddigonol i'r diben hwnnw. Gellir ymgynghori ag Archif Enwau Lleoedd Melville Richards neu Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Nid yw staff y Geiriadur fel rheol yn ymgymryd â gwaith cyfieithu: y mae sawl cwmni yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth cyfieithu. Gellir cael rhestr gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. O ran termau technegol, gellir ymgynghori a'r rhestr drafod electronig welsh-termau-cymraeg, a cheir rhestr hefyd i drafod testunau Cymraeg ar ffurf electronig (TESTUNAU). Dylid cyfeirio ymholiadau llyfryddiaethol neu gyffredinol at Ymholiadau LLGC, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Dylai'r sawl sydd â diddordeb mewn astudio defnydd corpws gysylltu â Thîm CySill yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG (tel: 01248 383293; post-e: cbs001@bangor.ac.uk), sydd wedi creu corpws o filiwn o eiriau Cymraeg Modern (CEG). Ceir llawer o wybodaeth ddefnyddiol am eiriaduron Cymraeg, sydd yn arbennig o ddefnyddiol i ddysgwyr, ar wefan Y Gwybodiadur. Gofynnir i ymchwilwyr gyfyngu eu hymholiadau i'r hyn na ellir mo'i ateb yn ymarferol drwy ymgynghori â chopi o'r Geiriadur, sydd ar gael yn y rhan fwyaf o'r llyfrgelloedd ymchwil pwysig, ac mewn llawer o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. Dylid cyfeirio pob ymholiad drwy lythyr at: Y Golygyddion, Geiriadur Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystywth, Ceredigion, SY23 3HH neu ffacs, neu drwy bost-e i geiriadur@aber.ac.uk). Mewn achosion brys neu pan fo'r ymholiad yn un syml, gellir ffonio. |
1921-2009
|
|
|
|
|
|
4. Sut y gellwch chi helpuRhoi enghreifftiau o eiriau nad ydynt yn y casgliad Gofynnir i ymchwilwyr ac eraill nodi unrhyw eiriau neu ymadroddion nad ydynt wedi eu cofnodi yn y Geiriadau nag yn y casgliadau slipiau. Gellir sgrifennu llythyr neu slipiau, neu ddefnyddio ein slip electronig. Anfon cywiriadau i destun y Geiriadur Croesewir pob math o gywiriadau i destun y Geiriadur, gan roi cymaint o fanylion â phosibl (yn enwedig ffynonellau manwl os cynigir enghreifftiau cynharach neu ychwanegol). Gellir sgrifennu llythyr neu slipiau, neu ddefnyddio ein slip electronig. Rhoi copïau electronig o'ch cyhoeddiadau neu o destunau Cymraeg Y mae gan y staff y Geiriadur gasgliad cynyddol o fersiynau electronig o destunau Cymraeg o bob math o wahanol ffynonellau, a hefyd gopïau electronig o nifer o olygiadau o destunau, cyfeirlyfrau, llyfryddiaethau, cyfeiriadau geirdarddiadol, &c. Croesewir ychwanegiadau bob amser. Y mae'r rhain yn hwyluso gwaith y golygyddion drwy eu galluogi i chwilio am enghreifftiau ychwanegol o eiriau neu ymdriniaethau o eiriau. Cysylltwch â Mr Andrew Hawke yn y lle cyntaf, os gwelwch yn dda, i drafod y mater. Bod yn barod i ateb cwestiynau syml yn ymwneud â'ch iaith lafar Os ydych yn siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf ac yn fodlon ateb cwestiynau syml achlysurol drwy gyfrwng post-e, rhowch eich manylion inni yma os gwelwch yn dda. Enghreifftiau o'r math o gwestiynnau a ofynnir fynychaf yw: 'Pa air sydd gennych ar lafar am "xxx"?', 'Rhowch enghraifft o'r gair "xxx" mewn brawddeg sy'n swnio'n naturiol', 'A ydych yn gyfarwydd â'r gair "xxx"?'. Darllen testunau, llyfrau, neu gylchgronau ar gyfer y Geiriadur Cafwyd gwasanaeth nifer o ddarllenwyr gwirfoddol yn y gorffennol a gy'frannodd ddegau os nad cannoedd o filoedd o slipiau i gasgliadau'r Geiriadur. Er mwyn aros yn gyfoes, y mae angen darllenwyr gwirfoddol i darparu slipiau wedi eu tynnu o gyhoeddiadau (diweddar, gan amlaf). Os hoffech ein cynorthwyo yn y dull hwn, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Dr Manon Roberts i drafod pa fath o destunau yr hoffech eu darllen ac am gyfarwyddiadau pellach. Bob haf fe gyflogir nifer o fyfyrwyr o adrannau Cymraeg y Brifysgol am bythefnos yr un i ddarllen testunau i'r Geiriadur. Fel rheol disgwylir i'r darllenwyr hyn weithio yn Ystafell Ddarllen y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Disgwylir iddynt ddarllen traethodau ymchwil newydd neu gyhoeddiadau newydd fel arfer. Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y math hwn o waith, pe bai'r fath waith ar gael eleni, dylid cysylltu â Dr Manon Roberts fydd yn ychwanegu eich enw at y rhestr o ymgeiswyr ar gyfer Haf 2004. Ateb ein holiadur ar ddyfodol gwaith y Geiriadur Bellach mae gwaith yn mynd yn ei flaen ar ailolygu rhan A-B o'r Geiriadur ac ar greu fersiwn electronig ar lein ohono, ond nid yw'n sicr eto beth fydd dyfodol y Geiriadur. Ni ddisgwylir y bydd cynllun mor bwysig yn dod i ben yn llwyr, a gobeithir y bydd cyllid ar gael i barhau i gasglu gwybodaeth ac i baratoi ar gyfer cynlluniau geiriadurol eraill. Mae eich syniadau chi yn bwysig iawn inni ac i'r rheiny fydd yn gorfod penderfynu beth sydd ei angen. |
1921-2009
|
|
|
|
|||
![]() |
Rhodder
gwybod i geiriadur@cymru.ac.uk os ceir
trafferth wrth ddefnyddio'r safle hwn. |
|||