Amdanom Ni

Drwy benderfyniad, brwdfrydedd i ddysgu a haelioni gwerin Cymru, sefydlwyd Prifysgol Cymru drwy Siarter Brenhinol ym 1893 a bernir mai dyma un o’r datblygiadau gwleidyddol a chymdeithasol pwysicaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae i Brifysgol Cymru hanes hir a balch, yn chwarae rhan bwysig yn datblygu addysg uwch yng Nghymru.
Roedd pobl Cymru’n ystyried eu Prifysgol yn sefydliad cenedlaethol a gâi ei ddathlu ar lwyfan genedlaethol a rhyngwladol. Drwy gefnogaeth y Brifysgol i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Geiriadur Prifysgol Cymru, Neuadd Gregynog (a gymynroddwyd i’r Brifysgol yn y 1960au) a Gwasg Prifysgol Cymru, helpodd i hybu a dathlu iaith, etifeddiaeth a diwylliant Cymru.
Dros y blynyddoedd mae’r Brifysgol wedi addasu er mwyn bod mewn sefyllfa i ymateb i anghenion myfyrwyr, yng Nghymru a thu hwnt.
Ym mis Hydref 2011, ymrwymodd cyrff llywodraethu Prifysgol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i newid cyfansoddiadol di wrthdro ac uno. Cwblhawyd cam cyntaf y broses hon yn 2012 gydag uno Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, yn ogystal â chreu Adduned Cymru.
Ym mis Awst 2017, cymeradwyodd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant weithred uno oedd yn cyflawni’r amcan polisi gwreiddiol o integreiddio dwy Brifysgol hanesyddol, gan greu Prifysgol newydd i Gymru.
Bydd y Brifysgol ar ei newydd wedd yn adeiladu ar ragoriaeth ac etifeddiaeth ei sefydliadau sylfaenu i ysgogi system addysg newydd radical sy’n mynd i’r afael ag anghenion penodol Cymru a darparu rhaglenni sy’n ddeniadol i fyfyrwyr o bob rhan o’r DU ac yn rhyngwladol.
Yr Is-Ganghellor yw’r Athro Medwin Hughes DPhil DL DPS FRSA.
I weld cwestiynau cyffredin am uno Prifysgol Cymru, cliciwch yma.