Mae aelodaeth o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru am ddim i holl raddedigion Prifysgol Cymru ac fel cyn-aelodau mae gennych hawl i amrywiaeth o fuddion.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Y cylchgrawn blynyddol Campus sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau am y gweithgareddau amrywiol o fewn y Brifysgol, yn ogystal â dathlu llwyddiannau aelodau’r gymdeithas.
- Gwybodaeth am ddigwyddiadau, cynadleddau a seminarau a allant fod o ddiddordeb i chi.
- Drwy bartneriaeth Prifysgol Cymru â Wales World Wide, llwyfan rhwydweithio a marchnata byd-eang arlein a grëwyd ar gyfer busnesau yng Nghymru neu i’r sawl sydd â diddordeb ac ymlyniad â Chymru, caiff Cyn-fyfyrwyr gyfle i rwydweithio, adeiladu cysylltiadau a derbyn y newyddion diweddaraf o’r gymuned fusnes yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
- Darparu pwynt cyswllt sy’n cynnig cyngor ble y gallwn, eich helpu i drefnu aduniadau a chysylltu â hen ffrindiau unwaith eto.
- Nifer o gynigion arbennig a gostyngiadau ar gyfer gwasanaethau masnachol a busnes.
- Y gallu i rwydweithio ar raddfa fyd-eang gyda ffurfiant canghennau ac adrannau cyn-fyfyrwyr rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau rhwydweithio.
- Ysgoloriaethau i raddedigion Prifysgol Cymru.
- Tudalennau pwrpasol i gyn-fyfyrwyr ar wefan y Brifysgol gyda’r newyddion diweddaraf, digwyddiadau canghennau ac adrannau, gostyngiadau a chynigion perthnasol eraill.
Rydym yn gweithio’n barhaus i wella’r gwasanaethau a buddion y gallwn eu cynnig i’n haelodau felly cofiwch edrych yn rheolaidd.
Mae’r buddion hyn i’n holl gyn-fyfyrwyr eu mwynhau a’u defnyddio, sicrhewch nad ydych yn colli allan trwy gofnodi eich manylion yn awr.