Ysgoloriaethau

Sefydlwyd y dyfarniadau hyn gan Urdd y Graddedigion, y corff blaenorol ar gyfer Graddedigion Prifysgol Cymru.

Yn dilyn ailffurfio’r Brifysgol yn 2007, pan newidiwyd cyfansoddiad ac enw’r corff, mae’r dyfarniadau hyn bellach yn cael eu gweinyddu ar ran y Brifysgol gan Swyddfa Cyn-fyfyrwyr PC (sy’n rhan o Swyddfa’r Is-Ganghellor).

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r Ysgoloriaethau isod, gan gynnwys rheoliadau llawn, meini prawf cymhwyster a ffurflenni cais, cysylltwch â Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru.

Cymhorthdal Astudio Urdd y Graddedigion
Amcan y Cymhorthdal Astudio, sydd ar gael i Raddedigion Prifysgol Cymru, yw cefnogi Astudiaeth Academaidd a chynlluniau ymchwil neu weithgaredd cyffelyb lle nad oes cymorth ariannol arall digonol ar gael. Ni fwriedir iddynt ychwanegu at ysgoloriaethau a grantiau am ymchwil at raddau uwch, ond ni chaiff ceisiadau am waith sy’n gysylltiedig â chynlluniau gradd ymchwil eu diystyru os gellir dangos y byddai derbyn Cymhorthdal yn ehangu ystod y cynllun.

Dyddiad Cau
Parhaus

Grantiau Cyhoeddi Urdd y Graddedigion
Gall y Brifysgol ddyfarnu grantiau i gynorthwyo cyhoeddi gwaith ysgolheigaidd. Gall Adrannau a Changhennau Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru a Graddedigion unigol o’r Brifysgol ymgeisio am grantiau. Ystyrir ceisiadau ar y cyd rhwng cyd-awduron cyhoeddiad arfaethedig cyhyd ag y bo o leiaf un ohonynt yn meddu ar ddyfarniad Prifysgol Cymru.

Dyddiad Cau
Parhaus

Ysgoloriaethau Ôl-raddedig Urdd y Graddedigion
Dyfernir dwy Ysgoloriaeth Ôl-raddedig o bryd i’w gilydd fel bo cyllid yn caniatáu. Mae’r Ysgoloriaethau i’w defnyddio ar gyfer astudio ôl-radd yn arwain at radd uwch Prifysgol Cymru. Dyfernir un o’r Ysgoloriaethau i unigolyn graddedig o Brifysgol Cymru sydd wedi astudio am ddyfarniad yn un o Ganolfannau Cydweithredol Prifysgol Cymru, a dyfernir yr ail Ysgoloriaeth i unigolyn graddedig o Brifysgol Cymru sydd wedi astudio am ddyfarniad yn un o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru.

Dyddiad Cau 
Cynlluniau astudio sy’n dechrau yn ystod hydref 2016: 30 Mehefin 2016 
Cynlluniau astudio sy’n dechrau ym mis Ionawr 2017: 30 Medi 2016

Books

Ysgoloriaethau

Mae gan Brifysgol Cymru dros 50 o wahanol ysgoloriaethau, gwobrau a dyfarniadau sy'n ymdrin â meysydd o deithio i gerddoriaeth, yn darparu cymorth ariannol i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol.

Am fwy o wybodaeth, ebost registryhelpdesk@wales.ac.uk