Cynigion Arbennig a Gostyngiadau

Fel aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, mae gennych hawl i’r cynigion arbennig a gostyngiadau a nodir isod.

Fe hoffem glywed eich barn ynglŷn â pha fath o fuddion a gwasanaethau fyddai’n fwyaf defnyddiol i chi a’r rhai yr hoffech i ni geisio’u sicrhau. Yn ogystal, os ydych yn teimlo bod gennych chi wasanaeth neu fuddion yr hoffech eu cynnig i gyn-fyfyrwyr yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â alumni@cymru.ac.uk gyda’ch awgrymiadau, sylwadau neu gynigion. Peidiwch ag anghofio edrych yn rheolaidd wrth i ni barhau i gynyddu’r nifer o fuddion sydd ar gael i chi.

Cynigion Arbennig a Gostyngiadau

ala-logo

 

 

 

 

 

 

 

  

Yswiriant Bwlch ALA

Mae Cwmni Yswiriant Bwlch ALA yn falch i gynnig gostyngiad o 10% i Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru pan fyddant yn prynu ar wefan ALA.

Mae yswiriant bwlch yn cwmpasu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn y taloch chi am eich car a gwerth cyfredol y cerbyd. Mae hyn yn amhrisiadwy os collir eich cerbyd yn llwyr oherwydd bydd cwmnïau yswiriant ond yn talu gwerth marchnad cyfredol y cerbyd, a fydd yn sylweddol is na’r hyn a daloch chi amdano.

I fanteisio ar y cynnig gwych hwn defnyddiwch y cod ALUMNI wrth bwrcasu arlein. Ewch i www.ala.co.uk

alumnisubscriptions









Alumni-subscriptions.co.uk

Arbedwch hyd at 70% ar gylchgronau a thanysgrifiadau.

Fel aelod o gymdeithas cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gallwch fanteisio ar y prisiau is sydd ar gael ar danysgrifiadau i gylchgronau fel The Economist, Time, National Geographic, Vogue a llawer, llawer mwy.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.alumni-subscriptions.co.uk

car-leasing-uk-logo

 

 

 

 

 

Car Leasing UK

Mae’r cwmni prydlesu ceir Car Leasing UK yn cynnig gostyngiad o 10%  i Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru oddi ar y rhent cyntaf wrth brydlesu car.

Mae amrywiaeth eang o geir gan Car leasing UK sy’n darparu ar gyfer pob cyllideb a chwaeth. Ewch i’r wefan – www.carleasinguk.com - i bori drwy’r ceir sydd ar gael ac yna ffoniwch 01653 604300 gan ddyfynnu Wales Alumni i fanteisio ar y cynnig arbennig hwn.

Go-SImply 























Gosimply.com

Mae gosimply.com yn cynnig amrywiaeth o ostyngiadau unigryw ar eu gwasanaethau teithio i aelodau Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru a staff y Brifysgol. Mae eu safle cymharu hawdd ei defnyddio’n helpu miloedd o bobl i ddod o hyd i’r bargeinion teithio gorau bob wythnos.

Ewch i gosimply.com a nodi’r cod UOW i gael y gostyngiadau canlynol:

- gostyngiad o 20% ar ystod gynhwysfawr o bolisïau yswiriant teithio
- gostyngiad o 10% ar
lolfeydd maes awyr i gael blas ar fywyd bras
- mwynhewch ostyngiad o 5% ar brisiau
llogi car sydd eisoes yn gystadleuol iawn

Ble bynnag yr ydych yn mynd, fydd dim angen talu trwy’ch trwyn am yr hanfodion teithio hyn, mae gosimply yn gwneud cymharu prisiau parcio maes awyr a gwestai maes awyr yn hawdd mewn 26 maes awyr ar draws y DU

Mae pobl craff yn defnyddio gosimply.com

GregynogUofWlogo 














Neuadd Gregynog

Er ei bod eisoes yn cynnig gwerth am arian ardderchog, mae Gregynog yn cynnig gostyngiad o 10% ar brisiau arferol cynadleddau a chyfarfodydd masnachol i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru tan ddiwedd Awst 2012.

I fanteisio ar y cynnig hwn ffoniwch 01686 650224 neu anfonwch ebost at gregynog@cymru.ac.uk gan ddefnyddio’r cyfeirnod AlumniGH12 a nodi o ba sefydliad y gwnaethoch raddio ac ym mha flwyddyn. Cyfle delfrydol i archwilio’r ystâd fendigedig hon unwaith eto a mwynhau gwledd gan ein cogydd newydd gwych.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cymru.ac.uk/gregynog

Help In Need Boxes Logo

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Helpineedboxes

Mae Helpineedboxes yn gwerthu blychau pacio ac ategolion gyda gwasanaeth cenedlaethol, diwrnod nesaf. Mae’n cynnig cynhyrchion ansawdd uchel ar brisiau cystadleuol gyda gwasanaeth danfon a chwsmer rhagorol. Rydym ni’n falch iawn o sylwadau ein cwsmeriaid

Mae Helpineedboxes.co.uk yn hapus i gynnig gostyngiad o 10% i holl gyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Cymru ar eu holl gynhyrchion. Defnyddiwch y cod: WALESUNI

Mae gennym amrywiaeth enfawr o gynhyrchion heb isafswm archeb, o flychau pacio o bob maint, bubble wrap, tâp, a chloriau matresi a soffa. Gellir prynu eitemau drwy ein hadran amrywiol neu mewn sachau symud â gostyngiadau mawr. Mae ein blychau i gyd yn ecogyfeillgar ac wedi’u gwneud o ddeunydd ailgylchu, a hefyd yn fodwlar ar gyfer eu gosod mewn faniau neu gynwysyddion.

Ewch i www.helpineedboxes.co.uk neu ffonio 0845 058110

IHG












Gwestai IHG

Mae InterContinental Hotels Group yn cynnig gostyngiadau gwych i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ar lety ar draws y DU.

Gallwch arbed hyd at 35% ar arosiadau penwythnos yn y gwestai cyfrannog - Crowne Plaza, Holiday Inn & Holiday Inn Express.

Ymwelwch â’r Green Room, yr hafan ar gyfer holl gynigion a hyrwyddiadau cyffrous InterContinental Hotels Group, am ragor o wybodaeth ac i weld telerau ac amodau llawn - www.ihg.com/alumni

Moo

 

 












MOO

Math newydd o gwmni argraffu arlein yw MOO.com. Rydym ni wrth ein bodd yn argraffu ac rydym ni’n gwneud ein gorau i sicrhau cynhyrchion print o’r ansawdd uchaf ar gyfer eich holl anghenion rhwydweithio.  Crëwch gardiau busnes personol drwy lanlwytho eich cynlluniau eich hun neu ddewis cynllun o blith ein horiel o dempledi i’w bersonoli eich hun. Erbyn hyn mae gennym ni gyfres ‘Luxe’ sydd wedi’i ehangu i ategu ein cyfres ‘Classic’ i ddiwallu eich holl anghenion.

Mae MOO yn falch i allu cynnig gostyngiad o 10% i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ar holl gynhyrchion MOO!

Ewch i ymweld â MOO - http://uk.moo.com/a gosod MOOWALES yn y blwch gostyngiad wrth dalu i gael y gostyngiad arbennig o 10%! (Nodwch nad yw’r 10% yn cynnwys cludiant).

packingboxesLogo 
































Packing Boxes

Mae’n bleser gan Packing Boxes gynnig gostyngiad o 10% i holl fyfyrwyr ar ddefnydd pacio tŷ a chludiad AM DDIM ar y diwrnod gwaith nesaf. Defnyddiwch y cod gostyngiad wales (llythrennau bach i gyd) ar y ddesg dalu.

Mae Packing Boxes yn cyflenwi bocsys cardbord ar gyfer symud neu storio cynnwys cartref a swyddfa.

Os ydych yn symud llety, bydd angen bocsys symud o ansawdd uchel arnoch, ynghyd â blancedi symud a defnyddiau pacio fel papur swigod ar gyfer y cartref a’r swyddfa.

Mae gan Packing Boxes amrywiaeth eang o focsys symud o wahanol siâp a maint. Rydym hefyd yn cyflenwi bocsys penodol; DVD, CD, bocsys A4 a bocsys ar gyfer clybiau golff. o wahanol siâp a maint. Rydym hefyd yn cyflenwi bocsys penodol; DVD, CD, bocsys A4 a bocsys ar gyfer clybiau golff.

Mae ein cit Symud Myfyriwr yn ddelfrydol ar gyfer fflat fach 1 llofft a llety myfyrwyr. Mae gan y cit symud hwn amryw o focsys cardbord o wahanol faint a defnyddiau pacio am bris ardderchog. Manteisiwch ar ein cynnig arbennig o £27.95 yn cynnwys TAW a chludiad AM DDIM yn y DU ar y diwrnod gwaith nesaf.

Archebu ar-lein ar ein gwefan www.packingboxes.co.uk neu ffonio: 0800 3288 834

UWShopLogo















Siop Prifysgol Cymru

Gall aelodau’r gymdeithas cyn-fyfyrwyr hefyd fanteisio ar ostyngiad o 5% ar unrhyw archebion sydd dros £100.00 yn siop Prifysgol Cymru.

Os ydych yn chwilio am rywbeth i gofio’ch amser fel myfyriwr, neu’n chwilio am anrhegion i ffrindiau a theulu, mae siop Prifysgol Cymru yn lle delfrydol i chi.

Yn ogystal â gwerthu nwyddau, mae’r siop yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n hoffi llyfrau yn ogystal â’r darllenydd mwy academaidd, gydag amrywiaeth eang o lyfrau a chylchgronau ar werth wedi eu cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.

Ewch i siop ar-lein Prifysgol Cymru ar www.cymru.ac.uk/shop a defnyddiwch y cod gostyngiad Alumni ar y ddesg dalu i dderbyn eich gostyngiad.

VOOVit 
















 VOOVit

Mae VOOVit yn gwmni cludiant a storio rhyngwladol cost isel, sy’n hapus i gynnig gostyngiad o £10 yr archeb ar ei wasanaethau cludiant i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru.

Ceir nifer o gwmnïau cludiant rhyngwladol sy’n cynnig cludiant nwyddau rhyngwladol ond gan ein bod yn arbenigwyr yn y maes tâl paciau ychwanegol

a chludiant cistiau mae VOOVit yn cynnig arbenigedd un o gwmnïau tâl paciau ychwanegol mwyaf y DU, un sy’n arbenigo mewn cludiant myfyrwyr a symud myfyrwyr.

I fanteisio ar y gostyngiad hwn, yr unig beth sy’n rhaid i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ei wneud yw ticio’r blwch “Student” yn ystod y broses gofrestru. Ewch i www.voovit.com

 WANNApacklogo





























Wanna Pack

Mae Wanna Pack yn cynnig gostyngiad o 10% i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru. Ceir cludiad am ddim erbyn y diwrnod gwaith nesaf ar archebion sydd dros £25.00.

Gall eich cyfnod yn y brifysgol fod yn amser cyffrous iawn. Efallai mai dyma’r tro cyntaf i chi symud oddi cartref. Does dim gwahaniaeth a fyddwch yn dewis symud i fflat neu i neuadd breswyl, bydd angen defnyddiau pacio arnoch fel bocsys cardbord a phapur swigod i lapio’ch eiddo a’i gadw’n ddiogel.

Pan fyddwch yn meddwl am yr hyn sydd angen ei bacio, mae angen i chi gael bocsys pacio cadarn a cheisiwch osgoi defnyddio hen focsys rhag cael eich siomi. Mae Wanna Pack yn eich cynghori i ddefnyddio papur swigod bob tro i lapio eich eiddo gwerthfawr er mwyn osgoi toriadau wrth ei gludo. bob tro i lapio eich eiddo gwerthfawr er mwyn osgoi toriadau wrth ei gludo.

Mae Wanna Pack yn cynnig gostyngiad o 10% ar bob archeb. I dderbyn eich gostyngiad o 10% defnyddiwch y cod gostyngiad wales (llythrennau bach i gyd) pan fyddwch yn cyrraedd y ddesg dalu.

Archebu ar-lein ar ein gwefan www.wannapack.co.uk neu ffonio: 0800 32 888 34

WestEndTheatre























Westendtheatre.com

Gall cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ddefnyddio a mwynhau gwasanaeth i helpu archebu tocynnau i theatrau Llundain – ac arbed arian.

Mae Westendtheatre.com yn un o brif wefannau’r DU ar gyfer archebu tocynnau i theatrau Llundain ac mae ganddo nifer fawr o docynnau i’r sioeau mwyaf, a gostyngiadau a chynigion arbennig i gyfoeth o sioeau cerdd a dramâu’r West End.

Mae Westendtheatre.com wedi sefydlu Clwb Theatr arbennig i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, sy’n cael ei ddiweddaru bob mis ac sy’n cynnwys y cynigion a gostyngiadau diweddaraf ar sioeau’r West End, yn ogystal â phecynnau arbennig am theatr a swper a gwyliau theatr a gwesty.

Mae’r holl gynigion a thocynnau yn amodol ar faint sydd ar gael. Edrychwch ar y wefan am fanylion. Am ragor o wybodaeth ac i archebu, ewch i Glwb Theatr Prifysgol Cymru – www.westendtheatre.com/club/wales

Ymwadiad: Defnyddir unrhyw fuddion a gynhwysir ar y wefan hon ar eich cyfrifoldeb eich hun yn llwyr. Ni fydd Prifysgol Cymru yn atebol am gywirdeb yr wybodaeth a ddarparir gan drydydd parti, nac yn darparu unrhyw warantau neu sicrwydd o ran ansawdd neu briodoldeb eu cynigion.