Cyn-fyfyrwyr PC yn UDA

Yn ddiweddar cyhoeddodd Llysgenhadaeth Prydain raglen newydd i greu cyswllt â chyn-fyfyrwyr Prifysgolion y DU yn yr Unol Daleithiau.

Mae Cyn-fyfyrwyr y DU yn UDA, gan gynnwys rhai o Brifysgol Cymru, yn rhan bwysig o berthynas y DU ac UDA, ac mae Llysgenhadaeth Prydain am wneud mwy i ymgysylltu â chi, gan gynnwys gwahoddiadau i ddigwyddiadau mewn Llysgenadaethau a Swyddfeydd Is-gennad ar draws yr UD. Yn y gorffennol mae’r digwyddiadau hyn wedi amrywio o dderbyniadau gydag aelodau o gast Downton Abbey i drafodaethau polisi gyda Gweinidogion y DU.

Os ydych chi’n Gyn-fyfyriwr Prifysgol Cymru a astudiodd mewn sefydliad yn y DU, a bod gennych chi ddiddordeb gwybod mwy am ddigwyddiadau yn eich ardal chi, mae Llysgenhadaeth Prydain wedi sefydlu dolen lle gall Cyn-fyfyrwyr gwblhau ffurflen a chael eu hysbysu am ddigwyddiadau addas lleol. Ni fydd Llysgenhadaeth Prydain yn rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau allanol ar wahân i’n prifysgol ni - i gadarnhau i chi fynychu.

I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru, ewch i - http://ukinusa.tumblr.com/ukalumni

Mae hwn yn gyfle gwych i Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru sy’n byw yn yr UD fynychu nifer o ddigwyddiadau diddorol a chyffrous, ac ymgysylltu â’r DU.