Wales World Wide
Gall cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru bellach elwa ar bartneriaeth gyda Wales World Wide, sy’n cynnig cyfle i chi rwydweithio, adeiladu cysylltiadau a derbyn y newyddion diweddaraf o’r gymuned fusnes yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Llwyfan rhwydweithio a marchnata byd-eang arlein yw Wales World Wide, a grëwyd ar gyfer busnesau yng Nghymru neu i’r sawl sydd â diddordeb ac ymlyniad â Chymru.
Gan ddefnyddio pensaernïaeth ddigidol y cyfryngau cymdeithasol, mae Wales World Wide yn wasanaeth sy’n rhannu gwybodaeth, ac sy’n caniatáu i’w aelodau greu cysylltiadau’n rhyngwladol.
Bydd cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru’n gallu elwa o wasanaethau craidd y rhwydwaith; Man Cyfarfod arlein am ddim gyda fforymau trafod a gwasanaeth negeseuon rhwng aelodau â’r nod o gysylltu pobl sy’n rhannu diddordebau busnes ac sydd â chysylltiad â Chymru. Ceir nifer o fforymau sy’n benodol i sectorau lle gall defnyddwyr ddechrau a chyfranogi mewn trafodaethau wrth iddynt ddigwydd.
Mae’r safle hefyd yn cynnwys newyddion ar ddatblygiadau busnes rhyngwladol, ymchwil i farchnadoedd allweddol, cyfeiriadur o gwmnïau, a Chalendr Digwyddiadau. Mae’r calendr rhyngweithiol hwn yn proffilio digwyddiadau rhyngwladol sydd â chysylltiad â Chymru, neu rai o ddiddordeb i’r gymuned fusnes.
Mae Wales World Wide yn cynnig ffrwd o newyddion a sgwrs i ymwelwyr, a gwahoddir cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru i gyfrannu.
Ymunwch am ddim heddiw yn www.walesworldwide.org