Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr
Gyda myfyrwyr mewn dros 120 o ganolfannau cydweithredol yn rhyngwladol ac yn y DU, gellir dod o hyd i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru mewn proffesiynau amrywiol dros y byd i gyd. Mae Prifysgol Cymru yn sefydliad gwirioneddol ryngwladol, ac mae ei chyn-fyfyrwyr yn ffurfio rhwydwaith gwerthfawr.
O fewn y sefydliad ceir nifer o ganghennau ac adrannau cyn-fyfyrwyr yn y DU a thramor. Amcanion y canghennau hyn yw helpu i feithrin cyfathrebu rhwng y Brifysgol a’i chyn-fyfyrwyr. Gallant greu cymuned leol i gyn-fyfyrwyr, gan gynnig cysylltiadau i gyn-fyfyrwyr eraill sy’n symud i’r ardal, a chyfleoedd i rwydweithio drwy ddigwyddiadau cymdeithasol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag un o’r canghennau neu adrannau cyn-fyfyrwyr yna gellir gweld y manylion cyswllt perthnasol ar y tudalennau sy’n dilyn.
Canghennau’r DU
Canghennau Rhyngwladol
Adrannau Pwnc
Grwpiau, Clybiau a Chymdeithasau
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor cysylltwch â alumni@cymru.ac.uk