Cyswllt â Chyn-fyfyrwyr - Diweddariad

Yn 2013 cysylltodd y Brifysgol â holl Raddedigion y Brifysgol yn gofyn am geisiadau i ymuno â phwyllgor cyn-fyfyrwyr. Y nod oedd darparu canolbwynt ar gyfer trafodaethau rhwng y Brifysgol a’r Cyn-fyfyrwyr a hwyluso cyswllt dwyffordd a chyfathrebu gwell, sy’n arbennig o bwysig wrth i’r Brifysgol symud ymlaen at uno â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Caeodd y broses ymgeisio, a estynnwyd ddwy waith i sicrhau bod cyfle i unrhyw un oedd â diddordeb ymgeisio, ym mis Tachwedd 2013 ac mae’r Brifysgol yn ddiolchgar iawn i’r Graddedigion hynny a ymatebodd â diddordeb a brwdfrydedd.

Fodd bynnag nid oedd y ceisiadau a ddaeth i law yn ddigon eang ac amrywiol i allu penodi pwyllgor i gynrychioli’r holl gyn-fyfyrwyr - h.y. degau o filoedd o Raddedigion Prifysgol Cymru mewn dros 30 o wledydd ar draws y byd rydym ni’n cysylltu’n rheolaidd â hwy. Nid oedd y ceisiadau’n bodloni’r holl feini prawf a sefydlwyd i sicrhau ystyriaeth ddigonol o gydraddoldeb cyfle, cydbwysedd rhywiau, mewnbwn ffres ac ystod gytbwys o oed a disgyblaethau astudio.

Mae’r Brifysgol felly wedi penderfynu mabwysiadu dull gwahanol ac yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2014 mabwysiadodd Cyngor y Brifysgol Ordinant diwygiedig - i weld yr ordinant hwn, cliciwch yma.

Nodwch: nid yw nodau pwysig corff y graddedigion (paragraff 2 yr Ordinant) wedi newid. Yr hyn sydd wedi newid yw’r dull y caiff y nodau hyn eu cyflawni.

Mabwysiadwyd y fersiwn blaenorol o’r Ordinant yn 2007 ar adeg o ailstrwythuro sylweddol ym Mhrifysgol Cymru, ar ôl i nifer o golegau cyfansoddol ddewis bod yn brifysgolion annibynnol gyda’u pwerau dyfarnu graddau eu hunain. Rhagwelid y byddai pwyllgor ag un ar ddeg o aelodau’n cyfarfod yn y DU i gynrychioli Graddedigion y Brifysgol, yn debyg i fel yr oedd ei ragflaenydd – Urdd y Graddedigion, wedi gwneud. Ffurfio’r pwyllgor hwn (y Pwyllgor Cyswllt Cyn-fyfyrwyr) oedd diben yr ymarfer a lansiwyd ym mis Mawrth 2013 i recriwtio aelodau.

Ym mis Mawrth 2014 cytunodd Cyngor y Brifysgol fod amgylchiadau wedi newid ers 2007 ac o ganlyniad bod Ordinant 28 (Ordinant 22 yn flaenorol) wedi dyddio. Yn benodol, roedd angen ei ddiwygio i adlewyrchu gwelliannau mewn gwasanaethau Rhyngrwyd a chyfathrebu drwy gyfryngau cymdeithasol, a sail ryngwladol lawer ehangach cymuned Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru. Cytunodd y Cyngor hefyd nad oedd dod â phwyllgor at ei gilydd i gyfarfod yn y DU yn cynrychioli gwerth da nac yn ddefnydd da o gyllid Cyn-fyfyrwyr.

Yn lle pwyllgor o un ar ddeg, mae’r Ordinant diwygiedig wedi darparu ar gyfer creu Fforwm Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru (Fforwm Cyn-fyfyrwyr PC) a fydd ar agor i gyfranogiad llawer ehangach drwy gael ei weithredu fel fforwm anffurfiol ar y we’n bennaf i Raddedigion y Brifysgol.

Mae’r holl Raddedigion a gyflwynodd gais i ddod yn aelod o’r Pwyllgor Cyswllt Cyn-fyfyrwyr wedi cael eu gwahodd i ddod yn aelodau sylfaen o Fforwm Cyn-fyfyrwyr PC, ynghyd â chynrychiolwyr o Ganghennau ac Adrannau Rhyngwladol Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Yn ddiweddarach bydd cyfle i Raddedigion eraill ymuno â’r fforwm.

Cytunodd y Cyngor y byddai Fforwm Cyn-fyfyrwyr PC yn ddull mwy effeithiol i wella cyfathrebu gyda Graddedigion ac yn llwyfan da at y dyfodol.

Ceir rhagor o wybodaeth am Fforwm Cyn-fyfyrwyr PC yn y cwestiynau cyffredin - cliciwch yma i’w gweld.