Datblygiadau diweddar o ran uno Prifysgol Cymru

Yn ystod y cyfnod pontio hwn, hoffem sicrhau Graddedigion na ddylai’r newidiadau strwythurol hyn yn y Brifysgol effeithio arnoch chi mewn unrhyw ffordd.

Dylai’r cwestiynau isod ateb unrhyw ymholiadau sydd gan Raddedigion:

FAQsRSS FeedAtom Feed

Ateb:

Yn 2011, roedd datblygiadau o ran polisi Addysg Uwch yng Nghymru’n cael eu gyrru gan awydd i weld llai o brifysgolion yng Nghymru. Mewn ymateb, ym mis Hydref y flwyddyn honno, ymrwymodd cyrff llywodraethu Prifysgol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i uno dan Siarter 1828 Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cwblhawyd cam cyntaf yr uno hwn ym mis Hydref 2012 gydag uno Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, yn ogystal â chreu Adduned Cymru.

Bydd y penderfyniad hanesyddol hwn, oedd yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru ar y pryd ar gyfer ailstrwythuro’r sector addysg uwch yng Nghymru, yn caniatáu i Brifysgol Cymru barhau a’i chenhadaeth a’i hymrwymiad i gefnogi bywyd academaidd, diwylliannol ac economaidd Cymru fel rhan o brifysgol fwy o faint ar ôl uno.

Ateb:

Byddwch. Astudioch chi am radd Prifysgol Cymru ac fe’i dyfarnwyd i chi. Yn ogystal â bod yn aelod o gynllun cyn-fyfyrwyr eich sefydliad penodol, byddwch bob amser yn un o Raddedigion Prifysgol Cymru, ac yn gysylltiedig â hi, a bydd croeso i chi fel aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol.

Ateb:
Mae gan radd Prifysgol Cymru ac enw Prifysgol Cymru hanes cryf yn ogystal â chydnabyddiaeth eang a pharch gan gyflogwyr yn fyd-eang. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru wedi graddio o brifysgolion nad ydynt bellach yn dyfarnu graddau Prifysgol Cymru. Nid yw’r rhain wedi dioddef unrhyw effaith niweidiol o ganlyniad i’r newid hwnnw ac maent yn cynnwys llawer o aelodau blaenllaw o Lywodraeth Cymru, bywyd cyhoeddus a staff academaidd prifysgolion ledled y DU.
Ateb:

Na fydd. Wrth raddio rhoddwyd tystysgrif gradd i chi ac ni fydd ei gwerth na’i harwyddocâd byth yn newid. Os digwydd i chi golli neu fod angen tystysgrif amnewid yna fel o’r blaen mae’r Brifysgol yn cynnig gwasanaeth i gynorthwyo â hyn.

Ateb:

Byddant. Bydd yr holl Ganghennau ac Adrannau rhyngwladol a domestig yn aros yn weithredol ac yn parhau â’u busnes fel arfer. Mae’r rhain yn gwneud gwaith gwych yn helpu i gynnal cysylltiadau gyda’n cyn-fyfyrwyr, gan eu galluogi i gadw cysylltiad â’i gilydd a theimlo’n rhan o gymuned ryngwladol ehangach.

Ateb:

Byddwch yn parhau i dderbyn y newyddion diweddaraf ynghyd â’r cyhoeddiad blynyddol Campus.I sicrhau bod eich manylion diweddaraf gennym er mwyn derbyn unrhyw gyfathrebu yn y dyfodol, cofrestrwch yn www.cymru.ac.uk/Cofrestru

Ateb:

Fel sy’n digwydd nawr, byddwch chi’n parhau i gysylltu â Swyddog Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ar alumni@cymru.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau’n ymwneud â chyn-fyfyrwyr.

Arddangos 1 I 7 O 7