Datganiad gan Is-Ganghellor Prifysgol Cymru am Ganlyniad Refferendwm yr UE

Ers iddi gael ei sefydlu yn 1893, mae Prifysgol Cymru wedi ceisio gwasanaethu cenedl y Cymry drwy ddod â’r gorau o’r byd i Gymru, a mynd â’r gorau o Gymru i’r byd. Mae’r Brifysgol wedi cynnal traddodiad balch o feithrin cysylltiadau â sefydliadau a chroesawu myfyrwyr a staff o’r Undeb Ewropeaidd ac o bedwar ban byd.

Sefydlwyd y Brifysgol ar yr egwyddor o gyflwyno cyfle i bawb gael addysg, beth bynnag eu cefndir. Wrth i’r Brifysgol barhau â’i hymrwymiad i drawsnewid gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, bydd y Brifysgol yn parhau i gynnal yr egwyddor hon, yn ogystal â pharhau â’i hymrwymiad i’w byd-olwg fyd-eang a gosod lles Cymru wrth galon popeth mae’n ei wneud.

Hoffwn sicrhau ein myfyrwyr, staff, partneriaid a chyn-fyfyrwyr na fydd canlyniad refferendwm diweddar y DU ar yr Undeb Ewropeaidd yn cael unrhyw effaith ar unwaith ar weithrediadau cyfredol na chyfeiriad strategol y Brifysgol. Ni fydd unrhyw newidiadau ar unwaith i weithrediadau a gweithgareddau’r Brifysgol, ac ni fydd canlyniad y refferendwm yn effeithio ar fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglen astudio yn arwain at ddyfarniad y Brifysgol ar raglenni dilysedig tramor.

Bydd graddedigion yn dal i ddal y dyfarniad Prifysgol Cymru a dderbyniwyd ganddynt wrth raddio a byddant yn parhau’n aelodau gwerthfawr o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru. Ceir miloedd o gyn-fyfyrwyr o gwmpas y byd sydd â gradd Prifysgol Cymru. Mae gan radd ac enw Prifysgol Cymru waddol cryf a chânt eu cydnabod yn eang a’u hystyried yn werthfawr yn llygaid cyflogwyr ar draws y byd. Ni fydd y gwerth hwn yn newid.

Fel prifysgol sy’n edrych yn rhyngwladol, rydym ni’n cydnabod y buddion i gymunedau a busnesau sy’n deillio o gyfnewid syniadau, ymchwil a phrofiad ar draws diwylliannau ac ar draws ffiniau, yn Ewrop a thu hwnt. Mae’r Brifysgol a chenedl y Cymry wedi elwa’n aruthrol ar ei chysylltiadau â’r Undeb Ewropeaidd a phartneriaethau rhyngwladol eraill, ac rydym ni’n parhau’n gwbl ymrwymedig i gynnal a chyfoethogi’r cysylltiadau hynny nawr ac ar ôl trawsnewid, er budd Cymru.