Datganiad yr Is-Ganghellor i Raddedigion

Prof Medwin Hughes

Yr Athro Medwin Hughes
Is-Ganghellor

Ym mis Hydref 2011, ymrwymodd cyrff llywodraethu Prifysgol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i newid cyfansoddiadol di wrthdro ac uno. Bydd yr uno hwn yn digwydd dan Siarter Brenhinol 1828 Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cwblhawyd cam cyntaf y broses hon yn 2012 gydag uno Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, yn ogystal â chreu Adduned Cymru. Ym mis Awst 2017, cymeradwyodd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant weithred uno oedd yn cyflawni’r amcan polisi gwreiddiol o integreiddio dwy Brifysgol hanesyddol, gan greu Prifysgol newydd i Gymru.

Mae’n bwysig pwysleisio na ddylai’r newidiadau hyn o fewn y Brifysgol effeithio ar raddedigion mewn unrhyw ffordd. Bydd myfyrwyr yn cadw’r dyfarniad Prifysgol Cymru a enillwyd ganddynt ar raddio ac yn parhau i fod yn aelodau gwerthfawr o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru.

Mae gan filoedd o raddedigion ym mhedwar ban byd radd Prifysgol Cymru. Mae gan radd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru etifeddiaeth gref ac maent yn cael eu cydnabod, ac yn uchel eu parch, gan gyflogwyr trwy’r byd i gyd. Ni fydd gwerth hyn yn newid. 

Bydd y Brifysgol ar ei newydd wedd yn dathlu ac yn cofleidio miloedd o raddedigion ledled y byd sydd â gradd Cymru, gan sicrhau eu bod yn derbyn yr un gwasanaethau a chymorth ag y maent yn eu derbyn ar hyn o bryd. Pryd bynnag y graddioch chi, a pha bynnag sefydliad a fynychwyd gennych, gobeithio eich bod yn ymfalchïo yn eich cysylltiad â’r Brifysgol ac rydym i’n awyddus i sicrhau bod y Gymdeithas yn parhau i dyfu.

Gall cyn-fyfyrwyr weld rhestr o Gwestiynau Cyffredin sydd wedi eu llunio’n benodol i’n helpu i ateb unrhyw bryderon gan fyfyrwyr ynglŷn â’r newidiadau hyn

Hefyd, I weld cwestiynau cyffredin am uno Prifysgol Cymru, cliciwch yma.

Yr Athro Medwin Hughes
Is-Ganghellor