Cyngor y Brifysgol

Cyngor y Brifysgol yw corff llywodraethu goruchaf y Brifysgol gyda chyfrifoldeb am oruchwylio'r modd y mae'r Brifysgol yn cyflawni ei gwaith. 

Mae’r mwyafrif o aelodau'r Cyngor yn aelodau annibynnol, y mae eu sgiliau, profiad ac arbenigedd yn adlewyrchu amrywiaeth lawn gweithgareddau'r Brifysgol. Caiff amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys y sector preifat, eu cynrychioli gydag aelodau yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol i sicrhau fod Prifysgol Cymru yn cwrdd â'i hamcanion a'i huchelgais a'i bod yn gallu hyrwyddo buddiannau'r Brifysgol mewn meysydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Aelodau presennol y Cyngor yw:

Yr Hybarch Randolph Thomas (Cadeirydd)

Emlyn Dole (Darpar Gadeirydd)

Justin Albert OBE

Siwan Davies 

Yr Athro Medwin Hughes (Is-Ganghellor)

Timothy Llewelyn

Arwel Ellis Owen OBE (Is-Gadeirydd)

Dr Stuart Robb (Aelod staff)

Nigel Roberts

Dr Elizabeth Siberry OBE

Maria Stedman

Deris Williams MBE

Clerc y Cyngor yw Sarah Clark