Adduned Cymru - The Wales Pledge

Crëwyd Adduned Cymru - The Wales Pledge gan Brifysgol Cymru i sicrhau y bydd yr asedau mae'n eu dal yn parhau i fod o fudd i Gymru gyfan.

Gyda chronfa werth £6.8m, bydd yn cynnwys cyfres o drefniadau strategol a sefydlu nifer o gyrff elusennol i ddiogelu’r gwasanaethau traddodiadol a gysylltir â’r Brifysgol.

O fewn cyfnod o newid trawsffurfiol i addysg uwch yng Nghymru, drwy greu Adduned Cymru - The Wales Pledge, bydd y Brifysgol yn diogelu ei hetifeddiaeth i genedlaethau'r dyfodol a Chymru gyfan, gan barhau'n ffyddlon i'w gwerthoedd craidd a sicrhau bod yr asedau'n gwasanaethu'r diben y'i bwriadwyd ar ei gyfer. Bydd Adduned Cymru - The Wales Pledge yn cynnwys:

Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC (UWRET) - bydd hon yn diogelu'r rhoddion elusennol niferus y mae'r Brifysgol wedi'u derbyn dros y blynyddoedd, sy'n sefyll ar hyn o bryd ar £5.5m, ac a roddwyd at ddibenion penodol. Ceir rhagor o wybodaeth am yr ymddiriedolaeth elusennol annibynnol hon a Chronfa Treftadaeth y Werin, a sefydlwyd gan UWRET yn 2016 fel cynllun sy’n galluogi Ymddiriedolwr UWRET i gyflwyno grantiau a gwobrau, ar eu gwefan - www.ywerincronfadreftadaeth.cymru

Academi Treftadaeth Cymru - cyhoeddwyd yr ymddiriedolaeth i hyrwyddo a dathlu etifeddiaeth ddynamig Cymru, gydag ymrwymiad i ddatblygu gwaith y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Geiriadur Prifysgol Cymru. Bydd hefyd yn diogelu ac yn datblygu gwaith Gwasg Prifysgol Cymru, sydd â thraddodiad balch o wasanaethu Cymru a'i holl brifysgolion drwy gyhoeddi cyhoeddiadau ysgolheigaidd rhagorol. Ym mis Tachwedd 2014, sefydlwyd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies) Cyfyngedig fel is-gwmni yn eiddo i’r Brifysgol. Ym mis Hydref 2015, daeth y cwmni hwn yn elusen gofrestredig (Rhif: 1163796).

Ymddiriedolaeth Gregynog - bydd hon yn diogelu Neuadd Gregynog i'r genedl, sef y tŷ ac ystâd wledig a gymynroddwyd i Brifysgol Cymru gan y chwiorydd Davies o Landinam ym 1960.

Cymynrodd Deddf Eglwysi Cymru - caiff y tir a ddelir mewn Ymddiriedaeth gan y Brifysgol dan Ddeddf Eglwysi Cymru ei drosglwyddo i ymddiriedolaeth ar wahân.

Bydd rhagor o wybodaeth am Adduned Cymru – The Wales Pledge i'w gweld yn y llyfryn isod. Yn y ddogfen hon cyfeirir at Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC fel Ymddiriedolaeth Prifysgolion Cymru.

                                    Adduned Cymru
                                   

 

 

 

 

 

 

 

 


Lawrlwytho’r PDF

Fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i ymgynghori â'i rhanddeiliaid, mae'r Brifysgol yn awyddus i glywed unrhyw sylwadau a allai fod gennych chi am Adduned Cymru – The Wales Pledge, drwy'r ffurflen sylwadau.