Datblygiadau - Uno ac Ad-drefnu

Dros y blynyddoedd mae’r Brifysgol wedi addasu er mwyn parhau i fod wrth gallon bywyd academaidd, deallusol a diwylliannol y genedl. Gan ymateb i bolisi’r Llywodraeth a phenderfyniad sefydliadau sylfaen y Brifysgol i geisio eu pwerau dyfarnu graddau eu hunain, mae Prifysgol Cymru wedi ymgymryd ag ailstrwythuro radical.

Yn 2007 ailstrwythurwyd y Brifysgol pan ddaeth yn amlwg nad oedd strwythur ‘ffederal’ gwreiddiol Prifysgol Cymru bellach yn gwasanaethu’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Yn fwy diweddar, ym mis Hydref 2011, ymrwymodd cyrff llywodraethu Prifysgol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i newid cyfansoddiadol di wrthdro pan gyhoeddwyd y byddai’r sefydliadau’n uno dan Siarter 1828 Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Cwblhawyd cam cyntaf y broses hon yn 2012 gydag uno Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, yn ogystal â chreu Adduned Cymru.

Ym mis Awst 2017, cymeradwyodd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant weithred uno oedd yn cyflawni’r amcan polisi gwreiddiol o integreiddio dwy Brifysgol hanesyddol, gan greu Prifysgol newydd i Gymru. Bydd Prifysgol Cymru yn peidio â bod yn gorff achredu i Brifysgolion eraill yng Nghymru ac yn dod â’r rhaglenni dilysedig a gynigir mewn canolfannau yn y DU a thramor i ben.

Mae’r broses uno yn daith fanwl a chymhleth a dim ond pan fydd Prifysgol Cymru wedi cwblhau ei hymrwymiadau cyfreithiol i’w myfyrwyr cyfredol, canolfannau cydweithredol rhyngwladol a rhanddeiliaid eraill y gellir ei chwblhau. Yn ystod y cyfnod trawsnewidiol hwn, bydd y Brifysgol yn parhau i gynnig gwasanaethau academaidd a chymorth ac yn anrhydeddu ein holl ymrwymiadau i Fyfyrwyr, Graddedigion a rhanddeiliaid.

Gellir gweld cwestiynau cyffredin am yr uno drwy glicio yma.

I weld cwestiynau cyffredin sy’n berthnasol i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn benodol, cliciwch yma.

Llais y Rhanddeiliad

Mae'r Brifysgol yn awyddus i glywed safbwyntiau cynifer â phosibl o bobl, a bydd yn eu hystyried wrth iddi ymgynghori ar amrywiaeth o fentrau strategol arfaethedig.

Mae'r adran Llais y Rhanddeiliad yn cynnig cyfle i bobl sydd â diddordeb yn y Brifysgol wneud sylwadau ar gyfeiriad strategol y Brifysgol, gan ddefnyddio'r ffurflen sylwadau.