Cais Cyrchu Gwrthrych Data
Rhaid i Gais Testun am Weld Data gael ei gyfeirio at y Swyddog Diogelu Data mewn ysgrifen. Fe’ch gwahoddir i ddefnyddio’n Ffurflen, safonol i wneud hyn, ond nid oes rhaid; bydd llythyr cyffredin yn gwneud y tro.
Sylwer ar y canlynol:
• Fel rheol, ni chewch wneud y cais ond am ddata personol a ddelir
gan Brifysgol Cymru amdanoch chi. Os oes angen i chi wneud cais
am ddata rhywun arall, rhaid i chi roi ei ganiatâd ef neu ei
chaniatâd hi, mewn ysgrifen, ac wedi ei lofnodi.
• Bydd y Brifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i chi brofi pwy ydych chi.
Nid oes dull penodol o wneud hyn, ond gellir gofyn i chi ddarparu
rhyw wybodaeth bersonol ategol neu ryw ddogfennaeth bellach
megis pasbort.
• Ni chaiff gwybodaeth ei rhyddhau dros y ffôn.
• Mae’r Ddeddf yn caniatáu i’r wybodaeth gael ei chadw’n ôl o dan
rai amgylchiadau. Lle bydd y Brifysgol yn penderfynu cadw
gwybodaeth yn ôl, rhoddir gwybod i chi yn ysgrifenedig pam mae
hyn wedi digwydd. Cewch holi am y penderfyniad hwnnw drwy
gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol yn y cyfeiriad a nodir
isod.
• Mae’r Ddeddf yn caniatáu i ffi gael ei chodi am ateb Cais Testun am
Weld Data, a ffi’r Brifysgol am y gwasanaeth hwn yw £10. Dylid
anfon siec bersonol I Prifysgol Cymru gydag unrhyw gais.
Y Swyddog Diogelu Data
Prifysgol Cymru
Cofrestrfa’r Brifysgol
Rhodfa’r Brenin Edward VII
CAERDYDD
CF10 3NS