Bydd diplomedigion, deiliaid Graddau Sylfaen, Baglorion ac Athrawon yn gwisgo gŵn du o stwff neu o sidan ar y patrwm sy’n draddodiadol ar gyfer y dyfarniadau hyn.
Yn anffurfiol, bydd Doethuriaid yn gwisgo gŵn du o stwff neu o sidan, ar y patrwm cyffredin. Yn ei wisg lawn bydd Doethur mewn Athroniaeth yn gwisgo gŵn o frethyn rhuddgoch, y llewys llawn wedi eu torchi wrth yr ymyl flaen, a ffesinau a leininau sidan ym mhriod liwiau’r Gyfadran yr enillwyd y radd ynddi; gŵn o frethyn ysgarlad a wisgir gan ddeiliaid graddau doethur hŷn, ac iddo lewys llawn sydd wedi eu torchi wrth yr ymyl flaen, a ffesinau a leininau sidan ym mhriod liwiau’r Cyfadrannau perthnasol.
Cwfwl ar batrwm Rhydychen sydd gan ddeiliaid tystysgrif (gan gynnwys dyfarniadau TAR), diplomedigion a deiliaid Graddau Sylfaen, a hwnnw o stwff neu o sidan du, gydag ymylon du. Mae i’r cwcwll a’r band gwddf ymylon o gordyn tro yn lliwiau corfforaethol y Brifysgol, sef mwrrai, glas y llynges ac aur.
Cwfwl ar batrwm Rhydychen sydd gan Faglor, a hwnnw wedi ei wneud o stwff neu sidan du, ac eithrio yn y Gyfadran Gerddoriaeth, lle y maent wedi eu gwneud o sidan glas tywyll. Ym mhob Cyfadran, ac eithrio’r Gyfadran Feddygaeth, mae i gyflau’r Baglorion ymyl o sidan ym mhriod liw y Gyfadran; yn y Gyfadran Feddygaeth mae iddynt leinin o sidan ym mhriod liwiau’r Gyfadran, gydag ymylon gwyn (Meddygaeth a Llawfeddygaeth) neu borffor (Deintyddiaeth).
Cwfwl ar batrwm Caer‑grawnt sydd gan Athro, a hwnnw wedi ei wneud o sidan du, ac eithrio yn y Gyfadran Gerddoriaeth, lle y maent wedi eu gwneud o sidan glas tywyll. Mae cwfwl Athro wedi ei leinio â sidan ym mhriod liwiau’r Cyfadrannau perthnasol. Yn ychwanegol, mae i gwfwl Athro mewn Athroniaeth ymyl ruddgoch ac i gwfwl Athro mewn Llawfeddygaeth ac Athro mewn Gwyddoniaeth Ddeintyddol ymyl wen ac ymyl borffor yn y drefn honno. Yng nghwfwl Athro Ymchwil ceir leinin o sidan ym mhriod liwiau’r Gyfadran y dyfarnwyd y radd ynddi.
Cwfwl ar batrwm Caer-grawnt sydd gan Ddoethur, a hwnnw wedi ei wneud o frethyn ysgarlad, ac eithrio yn achos Doethur mewn Athroniaeth, sydd â chwfwl o frethyn rhuddgoch. Yng nghwfwl Doethur ceir leinin o sidan ym mhriod liwiau’r Gyfadran yr enillwyd y radd ynddi, ac mae i gwfwl Doethur mewn Meddygaeth ymyl wen hefyd.
Cwfl ar batrwm Caer-grawnt sydd gan Ddoethur y Brifysgol (a ddyfernir honoris causa ). Fe’i gwneir o frethyn glas, a’i leinio â sidan ysgarlad y llynges a cheir ymyl o gordyn dirdro o liwiau corfforaethol y Brifysgol, sef mwrrai, glas y llynges ac aur.
Dyma briod liwiau’r Cyfadrannau:
Yn anffurfiol, bydd Baglorion, Athrawon a Doethuriaid yn gwisgo’r cap sgwâr cyffredin. Yn eu gwisgoedd llawn, bydd Doethuriaid yn gwisgo cap tebyg o felfed du ac iddo dasel sidan du.