Sut rydym ni'n defnyddio Cwcis
Defnyddio Cwcis -
Cwci yw ffeil destun fach a gaiff ei storio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais er mwyn i’n gwefan ni gofio pwy ydych chi. Bydd cwci yn nodweddiadol yn cynnwys enw’r parth y daeth y cwci ohono, “oes” y cwci, a gwerth, fel arfer rhif unigryw a grëwyd ar hap. Ni ellir defnyddio cwci ar ei ben ei hun i’ch adnabod chi ac nid yw’n rhaglen gyfrifiadurol, ac ni all achosi unrhyw niwed i’ch cyfrifiadur.
Sut rydym ni’n defnyddio Cwcis
Rydym ni’n defnyddio dau fath o gwci yn y gwasanaethau arlein rydych chi wedi gofyn amdanynt. Nid yw’r cwcis yn casglu gwybodaeth bersonol ac ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei hanfon i drydydd parti.
Cwci Parhaus
Mae hwn yn cadw'r dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) rydych chi’n ei wneud pan fyddwch chi’n cysylltu â’n safle am y tro cyntaf ac ni chaiff ei ddileu pan fydd y porwr yn cael ei gau. Mae’n aros ar eich dyfais hyd nes y daw i ben neu hyd nes y byddwch chi’n ei ddileu. Mae’n cynnwys rhif unigryw a grëwyd ar hap a dyddiad terfynu. Nid yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol.
Cwci Sesiwn
Cwcis dros dro yw’r rhain a ddefnyddir yn ein gwasanaethau arlein ac sy’n parhau ar eich cyfrifiadur neu ddyfais hyd nes y byddwch yn cau eich porwr. Mae cwcis sesiwn yn caniatáu i ni gludo gwybodaeth ar draws tudalennau ein gwefan ac yn osgoi’r angen i ddefnyddwyr ailgyflwyno gwybodaeth.
Galluogi neu Analluogi Cwcis
Drwy addasu gosodiadau eich porwr, gallwch ddewis derbyn cwcis, cael eich hysbysu pan fydd un ar fin cael ei osod ar eich cyfrifiadur, neu wrthod pob cwci’n awtomatig. Fodd bynnag os ydych yn analluogi cwcis, mae’n bosibl na fydd ein gwasanaethau arlein yn gweithio.