Cwestiynau Cyffredin Myfyrwyr
- Ateb:
Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r Enw Defnyddiwr a gadarnhawyd pan wnaethoch gofrestru ar Fy Lle I a gyda’ch Sefydliad.
Os ydych wedi anghofio neu wedi colli eich cyfrinair, ewch i’r Tudalen Adfer Cyfrinair, nodwch eich Enw Defnyddiwr a chaiff y cyfrinair ei anfon atoch mewn ebost.
Pan oeddech yn mewngofnodi am y tro cyntaf gofynnwyd i chi ddewis enw defnyddiwr Google a gofynnwyd i chi a oeddech am ddefnyddio’r enw defnyddiwr hwn i fewngofnodi, os mai dyna oedd eich dewis byddech wedi derbyn ebost yn cadarnhau eich manylion.
Os ydych yn dal yn methu â dod o hyd i’ch enw defnyddiwr yna cysylltwch â’ch sefydliad a fydd yn gallu ei adfer i chi.
- Ateb:
I ddechrau, bydd angen i chi gysylltu â’r Sefydliad yr ydych yn astudio ynddo i gadarnhau’r manylion hyn.
- Ateb:
- Gallwch nodi manylion personol ar eich proffil a fydd yn gallu cael ei weld gan bobl eraill yn unol â'ch gosodiadau preifatrwydd. Gellir creu neu newid y manylion hyn ar eich Tudalen Proffil
- Ateb:
Os yw eich manylion mewngofnodi ar gyfer Fy Lle I gennych chi yna gallwch newid y cyfeiriad ebost cyswllt ar y tudalen proffil, nid yw hyn yn newid y cyfeiriad ebost a ddelir ar y brif system, rhaid i sefydliadau unigol wneud cais i newid hwnnw.
Ewch i’r dudalen ganlynol os nad yw eich manylion mewngofnodi gennych chi.
- Ateb:
- Os oes gennych fynediad i Fy Lle I yna mewngofnodwch gyda’r manylion a ddarparwyd, ewch i’r tudalen Proffil a dewis y ddewislen Gosodiadau. Newidiwch eich Llysenw i beth bynnag yr hoffech ei ddangos.
Os na allwch fynd at y safle am unrhyw reswm gwiriwch y Cwestiynau Cyffredin eraill ac efallai y cewch yr ateb yn un ohonynt.
- Ateb:
Os allwch fynd i’ch cyfrif Fy Lle I, yn yr adran proffil ceir dewis dan golygu proffil i newid eich cyfrinair.
Os yw eich cyfrinair yn iawn ond na allwch fynd i’r safle, gallwch adfer eich cyfrinair ar y Tudalen Adfer Cyfrinair sydd hefyd yn egluro sut i newid eich cyfrinair.
Os ydych wedi anghofio neu golli’r enw defnyddiwr a’r cyfrinair yna bydd angen i chi siarad â’ch Sefydliad a fydd yn gallu naill ai eu hail osod neu eu hanfon atoch eto.
- Ateb:
Os ydych yn gwybod y cyfeiriad ebost a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru gallwch ddefnyddio’r Tudalen Adfer Cyfrinair. Bydd hwn yn anfon eich cyfrinair at y cyfeiriad ebost a ddelir ar y system.
Os nad ydych yn siŵr beth oedd eich cyfeiriad ebost pan wnaethoch gofrestru yna bydd angen i chi siarad â’r Sefydliad yr ydych yn astudio ynddo a fydd yn gallu rhoi’r wybodaeth honno i chi.