Mae’r Athrofa yn gyfuniad o arweinwyr addysg rhyngwladol sy’n gweithio i drawsffurfio addysg a thrawsffurfio bywydau yng Nghymru
Sefydlwyd Yr Athrofa gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae iddi dair rhan – Partneriaeth Dysgu Proffesiynol, Canolfannau Rhagoriaeth Ymchwil a Chomisiwn Addysg Cymru – sy’n adeiladu ar hanes anrhydeddus addysg athrawon yn Ne-orllewin Cymru.
Mae’r sylfeini cadarn yr adeiladwyd Yr Athrofa arnynt yn caniatáu adfyfyrio gofalus, ond hefyd mae yna benderfyniad i yrru newidiadau addysgol yn eu blaen yng Nghymru fel rhan o’n cenhadaeth genedlaethol.
Mae’r Athrofa, mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid allweddol ar draws y sbectrwm addysg, yn codi pontydd ac yn ceisio dysgu gan y goreuon.
Mae’n credu yng ngrym cydweithio ac mewn defnyddio’r cryfder sy’n bodoli yn system addysg Cymru a’r tu hwnt er budd yr holl ddysgwyr.
Mae’r Athrofa yn addysgu, ymchwilio, adfyfyrio ac yn dadansoddi – ac yn edrych ymlaen at chwarae rhan lawn a gweithgar yn natblygiad addysg yng Nghymru yn y dyfodol.
Ceir rhagor o wybodaeth am Yr Athrofa a’i gwaith ar wefan - www.athrofa.cymru