Canolfan Dylan Thomas
Arwain y Ffordd gydag Arloesi, Masnach ac Addysg.

Canolfan Dylan Thomas, yn Ardal Glannau Abertawe, yw un o adeiladau mwyaf eiconig y ddinas.
Yn 2011, cymerodd y Brifysgol brydles yr adeilad ac mae wedi buddsoddi’n helaeth i atgyweirio’r Ganolfan. Erbyn hyn mae’n lleoliad amlbwrpas sy’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ac achlysuron, ac mae’r cyfleusterau yn y Ganolfan yn cynnwys gofod deori ar gyfer busnesau sydd â diddordeb mewn sefydlu presenoldeb yn Abertawe, a chaffi cynnes a chroesawgar.
Gyda’r Ganolfan eisoes yn ganolbwynt arloesi ar gyfer entrepreneuriaid, mae hefyd yn gartref i un o ganolbwyntiau uwchgyfrifiadura arloesol Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru.
Mae’r Brifysgol wedi gwella ac ehangu’r cyfleusterau, gan ehangu elfen Dylan Thomas y Ganolfan cyn dathliadau canmlwyddiant ei eni yn ddiweddar.
Gyda’r Ganolfan wedi’i thrawsnewid yn llwyr dan ofalaeth Prifysgol Cymru, dim ond dechrau yw’r newidiadau hyn ar gyfnod sy’n addo bod yn un cyffrous iawn i’r Ganolfan.