Wedi ei bostio ar 12 Awst 2019

Stonehenge
Canmlwyddiant dysgu archeoleg
Mehefin 2020 fydd canmlwyddiant dysgu archeoleg ym mhrifysgol Caerdydd. Rhan allweddol o hyn fydd aduniad i’n holl raddedigion archeoleg a chadwraeth, a chyn aelodau staff, dros benwythnos o ddigwyddiadau, Mehefin 5ed-7fed. Bydd digwyddiadau eraill hefyd, trwy gydol y flwyddyn, gyda’r manylion perthnasol yn cael eu hanfon yn eu tro. Bydd cwblhau’r arolwg isod yn rhoi caniatâd i ni gadw mewn cysylltiad â chi. Gallwch hefyd gysylltu â ni yn uniongyrchol ar e-bost: archaeology100@cardiff.ac.uk neu drwy ddilyn y ddolen a ganlyn i arolwg byr ar-lein: www.cardiff.onlinesurveys.ac.uk/cardiff-archaeology-2020
Mae cychwyn cyntaf addysg archeoleg yng Nghaerdydd ym 1920 yn golygu mai dyma’r adran archeoleg hynaf yng Nghymru, ymhlith yr hynaf ym Mhrydain ac efallai’r gyntaf i ganolbwyntio ar ddysgu archeoleg Brydeinig ac Ewropeaidd yn arbennig. Ein penodiad cyntaf oedd neb llai na Mortimer Wheeler, a’r swydd yn cael ei rhannu gyda’r Amgueddfa Genedlaethol. Cyflawnodd ef a’i wraig Tessa waith cloddio o bwys yng Nghymru a mannau eraill, traddodiad y mae ein myfyrwyr wedi parhau i feithrin yn y Deyrnas Unedig a thros y byd.
Trwy gydol 2020, bydd yr Adran Archeoleg a Chadwraeth (sydd bellach yn rhan o’r Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd) yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau yn dathlu archeoleg a chadwraeth yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn awyddus iawn i glywed oddi wrth gyn-fyfyrwyr, a oeddent yn neu wedi gweithio ym maes archeoleg a chadwraeth neu mewn meysydd eraill.