Wedi ei bostio ar 25 Ionawr 2016
Mae Cangen Bangor Cymdeithas Graddedigion Prifysgol Cymru’n parhau a’i rhaglen o ddarlithoedd yn 2015/16 gyda dau ddigwyddiad yn nhymor y gwanwyn.
Nos Wener, 29 Ionawr 2016: Ailystyried yr Ystadau - Nia Powell
Bydd Nia Powell, Darlithydd yn Adran Hanes Cymru Prifysgol Bangor yn trafod agweddau ar waith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru gyda’i darlith Ailystyried yr Ystadau. Sefydlwyd y Sefydliad yn y Brifysgol ym mis Tachwedd 2013, a dyma’r ganolfan academaidd gyntaf yng Nghymru sy’n ymchwilio i ystadau tir a’r cymunedau o’u cwmpas.
Mae ystadau tir yn elfen bwysig o astudiaethau hanes Cymru dros nifer o ganrifoedd, nid yn unig oherwydd eu harwyddocâd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cynhenid, ond hefyd fel cyfrwng posibl ar gyfer ymchwilio i themâu fel llywodraethu lleol, strwythurau defnydd a pherchnogaeth tir, ac ymdrechion llenyddol ar wahanol adegau yn hanes Cymru.
Nos Wener, 29 Ionawr 2016: Pontio a’r Dyfodol - Elen ap Robert
Bydd yr ail ddarlith yn gyfle i drafod cynllun mawr arall Prifysgol Bangor - Canolfan Pontio. Agorwyd Pontio’n swyddogol ym mis Rhagfyr 2015, yn Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd i Brifysgol Bangor. Yn ogystal â gweithredu fel canolbwynt cymdeithasol pwysig i fyfyrwyr ac yn ganolfan dysg, arloesi a chelfyddydau perfformio o bwysigrwydd rhyngwladol, mae yno theatr, theatr stiwdio, sinema, darlithfeydd, gofod arddangosfa, bar a chaffi.
Elen ap Robert, y Cyfarwyddwr Artistig, sy’n ymuno â’r Gangen i drafod cynlluniau’r dyfodol a sut mae’r Ganolfan yn gobeithio cyfrannu at ddatblygiad diwylliannol y rhanbarth.
Cynhelir y darlithoedd, a draddodir yn Gymraeg, yn Ystafell Gynadledda’r Hen Goleg, Prifysgol Bangor. Bydd y darlithoedd yn dechrau am 5:15pm ac estynnir croeso cynnes i bawb.