Wedi ei bostio ar 3 Ebrill 2013
Y llynedd dathlodd Cangen yr Almaen o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ei degfed pen-blwydd. Gyda thros 220 o aelodau mae wedi tyfu dros y blynyddoedd i gynnig cyfleoedd rhwydweithio ac adnoddau academaidd sylweddol i Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru yn yr Almaen ynghyd â graddedigion Prifysgol Cymru sy'n siarad Almaeneg.
Mae'r Gangen yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau blynyddol, gyda dau ddigwyddiad arbennig iawn i ddod dros yr ychydig fisoedd nesaf.
Sadwrn 27 Ebrill - Symposiwm Blynyddol, Hamburg
Cynhelir symposiwm blynyddol 2013 Cangen yr Almaen yn y Gwesty Tŷ Bwyta pum seren Louis C. Jacob yn Hamburg. Mewn lleoliad unigryw, mae gan y gwesty olygfeydd eang dros Afon Elbe.
Bydd agenda'r dydd fel a ganlyn:
09:30 Cyfarfod
10:00 Croeso a Chyflwyniad gan Dr. Martina Nieswandt
10:15 Kultur vs. Markt - ein interessengeleitetes Missverständnis - Papur gan yr Athro Dr. D Hasselbach
12:00 Cinio
13:00 Wie verändern Computer Unternehmen? - Globalisierung/Digitalisierung in den Bereichen Prozesse & Personal - Papur gan Dr. B Miebach
14:30 Egwyl coffi
15:00 Cyfarfod Blynyddol y Cyn-fyfyrwyr
17:00 Green Economy als politische und volkswirtschaftliche Herausforderung - Papur gan yr Athro Dr. Thomas Zacher
19:30 Cinio Nos a Derbyniad
Mae'n addo bod yn achlysur hynod o addysgiadol a chofiadwy, ac mae croeso i holl Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ymuno â ni.
Os hoffech chi ddod i'r symposiwm blynyddol cysylltwch â Mrs Mandy Scheibner. Ceir rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt ar y wefan - www.alumni-wales.de
Dydd Gwener 2 Mai – Dathliad Graddio, Caerdydd
Gwahoddir yr holl Gyn-fyfyrwyr Almaenig sy'n mynd i'r Dathliad Graddio eleni yng Nghaerdydd gan Gangen yr Almaen i ddathlu eu cyflawniadau yn dilyn y digwyddiad yn Henry’s Café Bar ng Nghaerdydd. Bydd y noswaith yn dechrau am 6:00pm.
Os hoffech chi ymuno, yna cysylltwch â Mrs Mandy Scheibner. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan - www.alumni-wales.d