Wedi ei bostio ar 12 Tachwedd 2015
Ar 21 Tachwedd, bydd Adran Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru’n cynnal cynhadledd undydd er cof am yr Athro Trefor M. Owen, Llywydd Anrhydeddus yr Adran ac un o’i phrif sylfaenwyr.
Roedd colli’r Athro Owen, awdurdod cydnabyddedig ar draddodiadau gwerin Cymru, ym mis Chwefror eleni yn golled fawr i astudiaethau ethnolegol, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Ym 1954 fe’i penodwyd i staff Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Fe’i penodwyd yn Guradur yr Amgueddfa yn 1971. Daliodd y swydd hyd ei ymddeoliad yn 1987. Cyhoeddodd nifer o weithiau ysgolheigaidd ar fywyd gwerin Cymru, yn eu plith ei gyfrolau adnabyddus Welsh Folk Customs (argraffiad cyntaf 1959) a The Customs and Traditions of Wales (argraffiad cyntaf 1991).
Teitl y gynhadledd yw Astudio Cymunedau Cymru: Agweddau ar fywyd a gwaith Iorwerth C. Peate, Alwyn D. Rees a Trefor M. Owen, ac fe’i cynhelir yn Institiwt y Gweithwyr Oakdale yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Yn ystod y diwrnod, bydd Tecwyn Vaughan Jones a Dr Eurwyn Wiliam yn trafod agweddau o fywyd a chyfraniad yr Athro Owen, a bydd yr Athro Rhys Jones yn trafod yr ‘ysgol’ ddylanwadol o ddaearyddwyr ac anthropolegwyr yn Aberystwyth yr oedd yr Athro Owen yn perthyn iddi.
Mae agenda llawn y dydd fel a ganlyn:
10:00 - 10:30 Cofrestru a choffi
10:30 - 11:30 Yr Athro Rhys Jones
Astudio Cymunedau Cymreig mewn Oes Ôl-Diriogaethol
11:30 - 12:30 Yr Athro M. Wynn Thomas
Cofio Alwyn D. Rees
12.30 - 13.45 Cinio (trefniadau personol)
13:45 - 14:15 Cyfarfod Blynyddol
14:15 - 15:00 Tecwyn Vaughan Jones
Prin ddau lle’r oedd gynnau gant: Hanes Trefor M. Owen
15:15 - 16:15 Dr Eurwyn Wiliam
Trefor M. Owen: Curadur ac Ysgolhaig
Cyflwynir y papurau yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd. Mynediad am ddim ond mae angen cofrestru o flaen llaw.
I gofrestru neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifennydd yr Adran, Dr Emma Lile, e.lile6127@btinternet.com