Wedi ei bostio ar 20 Tachwedd 2015
Ar 27 Tachwedd, bydd Cangen Bangor o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru’n dechrau cyfres darlithoedd cyhoeddus 2015/16 gyda darlith ar Newid Hinsawdd.
Trefnwyd y ddarlith i gyd-fynd â Chynhadledd Newid Hinsawdd bwysig y Cenhedloedd Unedig (COP 21) a gynhelir ym Mharis ddiwedd mis Tachwedd. Bydd Dr James Scourse yn traddodi darlith ar The Role of the Oceans in Climate Change. Mae Dr James Scourse yn Athro Daeareg Forol yn Ysgol Gwyddorau Morol Prifysgol Bangor ac ef ar hyn o bryd yw Cyfarwyddwr Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W).
Wrth gyhoeddi’r ddarlith, esbonia’r gangen:
"Wrth edrych ymlaen at y Gynhadledd, ychydig o bobl sy’n sylweddoli rhan bwysig y cefnforoedd. Mae ymhell dros 90% o’r ynni ychwanegol y mae’r Ddaear yn ei grynhoi oherwydd rhyddhau nwyon tŷ gwydr yn cael ei ddal yn y cefnforoedd.
Clywsom sôn am dymheredd ledled y byd yn torri pob record flaenorol mis Medi a mis Hydref eleni. Ond yn y pen draw y cefnforoedd fydd yn pennu dyfodol yr hinsawdd a thynged rhew môr a thir ardaloedd y pegynau ac felly hefyd i ba raddau y bydd lefel y môr yn codi yn y degawdau nesaf.
Bydd gwrando ar ddarlith James Scourse yn holl bwysig os ydym am ddeall yr hyn a all ddigwydd yn lleol ac yn fyd-eang."
Traddodir y ddarlith yn Saesneg yn Ystafell Gynadledda’r Hen Goleg, Prifysgol Bangor. Bydd y ddarlith yn dechrau am 5:15pm ac estynnir croeso cynnes i bawb.