Cyn-fyfyriwr PC yn cyhoeddi ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth

Wedi ei bostio ar 21 Rhagfyr 2015
Amnesia

Mae’r Bardd a Chyn-fyfyriwr Prifysgol Cymru Rhys Milsom, a astudiodd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, wedi cyhoeddi ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Amnesia.

Graddiodd Rhys gydag MA mewn Ysgrifennu Creadigol o PCDDS Llanbedr Pont Steffan yn 2013, ac mae ei ffuglen a’i farddoniaeth eisoes wedi’u cyhoeddi’n eang mewn cylchgronau, blodeugerddi a gwefannau.

Yn y cyflwyniad, disgrifir ei gasgliad cyntaf fel cipolwg ar funudau mewn bywyd y gall unrhyw un gysylltu â nhw. Mae themâu cariad a cholled yn treiddio drwy’r casgliad, gan droedio’n ysgafn drwy rhai cerddi ond hefyd - heb ymddiheuro, yn bwynt canolog mewn rhai eraill.

Magwyd Rhys yng Nghwm Rhondda ac mae bellach yn byw yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd. Yn ogystal â’i farddoniaeth, mae’n olygydd www.wicid.tv – gwefan i bobl ifanc 11-25 oed yn Rhondda Cynon Taf, sy’n rhoi sylw i ysgrifennu creadigol, barddoniaeth, ffotograffiaeth, ffilmiau, adolygiadau a digwyddiadau. Lluniwyd y wefan yn benodol hefyd i alluogi pobl ifainc i gymryd eu camau cyntaf yn y diwydiannau creadigol. 

Wrth siarad am ei gyfnod yn y Brifysgol, dywedodd Rhys:

“Yn fy marn i des i o hyd i fy “llais” ysgrifennu go iawn wrth astudio’r cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Fy nhiwtor oedd y bardd disglair ac unigryw Menna Elfyn, a’i chyngor a’i harweiniad hi a ysgogodd y syniadau ar gyfer fy nghasgliad cyntaf o farddoniaeth, Amnesia.

“Dechreuais y cwrs MA yn ysgrifennu dim ond ffuglen – straeon byrion yn bennaf – gan orffen y cwrs yn ysgrifennu barddoniaeth. Sut ddigwyddodd hynny? Byddai Menna yn gweld rhywbeth yn y darnau y byddwn yn eu hysgrifennu a, gyda’n gilydd, byddem yn eu cwtogi gan adael dim ond yr esgyrn. Yna byddai’r geiriau oedd yn weddill yn newid eu ffurf ac yn canfod eu ffordd i mewn i gerddi.

“Yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, cyhoeddais ryw 10 darn o waith mewn nifer o gylchgronau, cyfnodolion a blodeugerddi. Fe wnaeth yr MA ganiatáu imi fynd yn ddyfnach i mewn i’m gwaith a chanolbwyntio o ddifrif ar fy ysgrifennu, a olygai bod safon fy ysgrifennu’n codi drwy’r amser, gan roi’r hyder i mi gyflwyno gwaith i gyhoeddiadau.”

Yr Athro Menna Elfyn, bardd o fri a Chyfarwyddwr Rhaglen Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ysgrifennodd ragair y casgliad. Wrth siarad am addewid a gwaith Rhys, dywedodd:

“Gallai rywun synhwyro’n gynnar iawn fod Rhys Milsom yn mynd i wneud ei farc – mae naws emosiynol ac eglurder naturiol yn ei farddoniaeth. Drwy gydol ei gyfnod yn y brifysgol bu’n gwrando’n astud ar sylwadau am ei waith a gallai rhywun synhwyro bod gennych, yn y fan hon, sylwedydd difrifol, rhagorol ar fywyd. Rhagwelaf mai dechrau’n unig yw hyn ar yrfa lwyddiannus ym myd ysgrifennu.”

Mae rhaglenni MA mewn Ysgrifennu Creadigol wedi cael eu cynnig yn y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan er 1997 ac maent wedi denu myfyrwyr o ystod o gefndiroedd a phrofiadau – yn amrywio o raddedigion diweddar i fyfyrwyr aeddfed â phrofiad helaeth o fywyd. Lluniwyd yr MA mewn Ysgrifennu Creadigol ar gyfer ysgrifenwyr ymroddgar sy’n dymuno ehangu eu cwmpas a chwblhau darnau sylweddol o waith cyhoeddadwy.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Ysgrifennu Creadigol, ewch i wefan PCDDS.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau