Wedi ei bostio ar 9 Ebrill 2021

Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin
Gyda thristwch mawr y mae’r Brifysgol yn galaru marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin.
Mae'r Brifysgol yn cynnig ei chydymdeimlad diffuant i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru, ein Noddwr Brenhinol, a phob aelod arall o'r Teulu Brenhinol. Mae'r Brifysgol yn cofio gyda diolch ei wasanaeth ac arweinyddiaeth fel Canghellor Prifysgol Cymru (1949-76) a'i wasanaeth cyhoeddus a dyletswydd nodedig.