Eisteddfod 2018

Wedi ei bostio ar 2 Awst 2018

Bydd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig llu o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer pobl o bob oed ar ei stondin yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir eleni ym Mae Caerdydd.

O ddydd Sadwrn, Awst 4ydd tan ddydd Sadwrn, Awst 11eg, bydd arlwy’r Brifysgol yn amrywio o berfformiadau i ddarlithoed, ac o waith crefft i drafodaethau difyr.

Dyma’r amserlen lawn sy’n cynnwys manylion am holl weithgareddau’r Brifysgol ar ei stondin, sef rhif 219 -222.

Dydd Llun, Awst 6ed:

Drwy’r dydd: Dewch i greu logo gyda staff Coleg Celf Abertawe i ddathlu Blwyddyn y Môr 2018.

11.00- 12.00    Gweithdy Copr gyda’r artist a’r darlithydd, Gwenllian Beynon.

12:45-13:15     Sesiwn Prifsygol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifsygol Cymru yn Y Babell Lên - Paul Robeson a’r Eisteddfod:  Catrin Beard yn holi’r Prifardd Mererid Hopwood ac Ashok Ahir.

14.00- 15.00    Yr artist a’r darthlithydd, Gwenllian Beynon yn trafod ei thaith ddiweddar i Ohio a’r gwaith celf y gwnaeth hi a’i myfyrwyr greu wedi iddynt ddychwelyd.

15.00- 16.00    Dewch i wrando ar Glain Rhys, cynfyfyriwr BA Perfformio yn canu.

Dydd Mawrth, Awst 7fed:

Drwy’r dydd: Dewch i greu logo gyda staff Coleg Celf Abertawe i ddathlu Blwyddyn y Môr 2018.

1100 – 1300:  Sesiwn blasu: Cyfieithu ar y Pryd - Cyfle i glywed mwy am y cwrs arloesol a gynigir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer darpar gyfieithwyr ar y pryd.

12:45-13:15     Sesiwn Prifsygol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifsygol Cymru yn Y Babell Lên - Mam Cymru:  Catrin Beard yn holi Heulwen Davies, awdures Mam: Croeso i’w clwb a’r blog dwyieithog cyntaf i famau.

1300 – 1400: Sesiwn blasu: Tystysgrif Ôl raddedig mewn Isdeitlo - Cyfle i glywed mwy am y cwrs arloesol a gynigir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer darpar isdeitlwyr.

1400 – 1500: Cyfle i gwrdd â rhai o gyflwynwyr a chymeriadau Cyw i chwarae gemau a chanu.

1500 – 1600: Dewch draw i gwrdd â Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin ac i glywed mwy am datblygiadau cyffrous sydd ar y gweill. Cyfle hefyd i gwrdd â rhai o denatiaid Yr Egin ac i weld eu cynnwys.

Dydd Mercher, Awst 8fed:

Drwy’r dydd: Dewch i greu logo gyda staff Coleg Celf Abertawe i ddathlu Blwyddyn y Môr 2018.

1000 – 1100: Dewch i gwrdd â’r Athro Dylan Jones, Deon Yr Athrofa, Cyfadran Addysg y Brifysgol.

1100 – 1200: Densil Morgan yn lansio’r gyfrol: Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales: Volume 1: From Reformation to Revival, 1588-1760 (Gwasg Prifysgol Cymru).  Cadeirydd: Y Parchg Euros Wyn Jones. Siaradwyr: Yr Athro Ceri Davies, Prifysgol Abertawe a Dr Robert Pope, Coleg Westminster, Caergrawnt.

12:45-13:15     Sesiwn Prifsygol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifsygol Cymru yn Y Babell Lên Cennad: Catrin Beard yn holi’r Athro Menna Elfyn am ei Llên Gofiant (Barddas).

Dydd Iau, Awst 9fed:

Drwy’r dydd: Dewch i greu logo gyda staff Coleg Celf Abertawe i ddathlu Blwyddyn y Môr 2018.

12:45-13:15: Sesiwn Prifsygol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifsygol Cymru yn Y Babell Lên Bodio’r Geiriadur gyda’r Prifardd Myrddin ap Dafydd.

1500 – 1600: Dewch i wrando ar Glain Rhys, cynfyfyriwr BA Perfformio yn canu.

Dydd Gwener, Awst 10fed

Drwy’r dydd: Dewch i greu logo gyda staff Coleg Celf Abertawe i ddathlu Blwyddyn y Môr 2018.

1000 – 1100: Gweithgareddau Crefft gyda Glenda Tinney o’r Athrofa, Cyfadran Addysg y Brifysgol.

1100 – 1130: Sesiwn Prifsygol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifsygol Cymru yn Y Babell Lên - Cerddi Ffolant Cymru gyda Dr Rhiannon Ifans.

1230 – 1330: Cyfarfod Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru.  Dewch i wrando ar Myrddin ap Dafydd, Llywydd y Cyfeillion; Dr. G. Angharad Fychan, Golygydd Hŷn GPC yn sôn am eiriau sy’n newydd i’r Geiriadur ac Andrew Hawke, Golgydd Rheolaethol GPC yn sôn am GPC+

1300 – 1400: Crefftau Cynradd gyda Lynwen Roberts o’r Athrofa, Cyfadran Addysg y Brifysgol.

1400 – 1500: Dewch i gwrdd â hen ffrindiau yn ystod aduniad Y Drindod Dewi Sant – croeso cynnes i bawb.

1500 – 1600: Dewch i wrando ar Glain Rhys, cynfyfyriwr BA Perfformio yn canu.

Cofiwch alw draw i’r stondin – bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.

Gwybodaeth Bellach

Am fwy o wybodaeth ynglyn ag arlwy’r Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cysylltwch â Siân-Elin Davies drwy ebostio sian-elin.daviesuwtsd.ac.uk neu drwy ffonio 01267 676908 / 07449 998476.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau