Browser does not support script.
Yn ystod y mis hwn lansiodd Gwasg Prifysgol Cymru Representing the Male: Masculinity, Genre and Social Context in Six South Wales Novels gan John Perrott Jenkins. Yn y gyfrol dadleuir bod patriarchiaeth ddiwydiannol yn ne Cymru wedi sefydlu math arbennig ond niweidiol o gydymffurfiaeth gwrywaidd strwythurol a fynegir drwy set o arferion cyfyngedig – ac sy’n cyfyngu - ar sail rhywedd.
Ewch i’r wefan i brynu copi: https://www.uwp.co.uk/book/representing-the-male/
Hefyd y mis hwn, enwyd The History of Wales in Twelve Poems gan M. Wynn Thomas yn Llyfr y Mis gan Gyngor Llyfrau Cymru. Mae’n cynnig ffordd newydd o edrych ar orffennol Cymru, gan ddangos mai’r ffordd orau i gyrchu rhannau ohono yw drwy eiriau ei beirdd nodedig.
Ewch i’r wefan i brynu copi: https://www.uwp.co.uk/book/the-history-of-wales-in-twelve-poems/
Mae angen i chi fewngofnodi i gyfrannu. Os ydych chi’n ddefnyddiwr newydd, mae creu aelodaeth yn hawdd a diffwdan