GPC mis Hydref / Tachwedd 2022 newyddion

Wedi ei bostio ar 19 Hydref 2022
beibl

GPC mis Hydref / Tachwedd 2022 newyddion

Y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru, cyhoeddwyd ‘Mae’r Beibl o’n Tu’ gan Gareth Evans-Jones. Dyma gyfrol sy'n archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth yn ystod y cyfnod 1838-68. Gan ddefnyddio'r wasg gyfnodol Gymraeg Americanaidd fel sail, cynigir trafodaeth wreiddiol am y modd y meddyliai'r Cymry Americanaidd am gaethwasiaeth, un o faterion mwyaf dyrys eu gwlad fabwysiedig, a hynny yng nghyd-destun disgwrs Feiblaidd.

Yn ogystal, cyhoeddwyd Frank Lloyd Wright: The Architecture of Defiance gan Jonathan Adams. Mae sawl awdur wedi adrodd hanes cyflawniadau rhyfeddol a bywyd cythryblus Frank Lloyd Wright, ond dyma'r astudiaeth gyntaf i ddarparu eglurhad cynhwysfawr o'i egwyddorion a'r hyn a'i symbylai, gan eu holrhain i'w wreiddiau yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau