GPC mis Tachwedd 2021 newyddion

Wedi ei bostio ar 9 Tachwedd 2021
press photo nov 2011

GPC mis Tachwedd 2021 newyddion

Y mis hwn o Wasg Prifysgol Cymru, byddwn yn cyhoeddi Women, Memory and Dictatorship in Recent Chilean Fiction: Palabra de Mujer gan Gustavo Carvajal. Mae’r gyfrol hon yn trafod y modd y cynrychiolir atgofion menywod o’r unbennaeth yng ngwaith diweddar saith nofelydd o Chile. Ewch i’r wefan i brynu copi: https://www.uwp.co.uk/book/women-memory-and-dictatorship-in-recent-chilean-fiction/

Ar y blog, mae Darren Elliott-Smith yn cyflwyno New Queer Horror Film and Television, rhan o’n cyfres boblogaidd ar Astudiaethau Arswyd. Darllenwch y blog yma: https://www.uwp.co.uk/new-queer-horror-film-and-television/ 

 Yn olaf, cafwyd adolygiad gwych gan Dr Emma Schofield o The History of Wales in Twelve Poems gan M. Wynn Thomas ar wefan Wales Arts Review: https://www.walesartsreview.org/the-history-of-wales-in-twelve-poems-books/ 

Ceir gwybodaeth am y gyfrol wych yma: https://www.uwp.co.uk/book/the-history-of-wales-in-twelve-poems/ 

 

 

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau