Wedi ei bostio ar 27 Gorffennaf 2016
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn, ac mae’n ddathliad o ddiwylliant ac iaith Cymru.
Mae’r ŵyl yn teithio o le i le ar draws Cymru, gan ddenu tua 150,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau masnach.
Eleni cynhelir Eisteddfod Sir Fynwy a’r Fro yn y Fenni rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst, ac unwaith eto bydd Prifysgol Cymru’n bresennol.
Byddwn yn rhannu stondin gyda’n partner uno Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chynhelir nifer o ddigwyddiadau a darlithoedd drwy gydol yr wythnos gan gynnwys lansio llyfrau, sesiwn wybodaeth gan Andrew Hawke, Golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru am yr ap symudol a’r ychwanegiadau diweddaraf i’r geiriadur, yn ogystal â sgyrsiau a pherfformiadau eraill. Bydd ymwelwyr yn gallu pori a phrynu cyfrolau o siop lyfrau Gwasg Prifysgol Cymru.
Unwaith eto, bydd y ddwy brifysgol yn noddi’r Babell Lên gyda nifer o ddigwyddiadau a darlithoedd gan gynnwys y ddarlith flynyddol ddydd Gwener a chyfres o sgyrsiau llenyddol.
Mae’r digwyddiadau fel a ganlyn:
Llun, 12:45
Bondo Barddoniaeth – Darlith gan y bardd Menna Elfyn
Mawrth, 12:45
Saunders Lewis, Williams Pantycelyn a 2017 - Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis yw un o’r astudiaethau beirniadol mwyaf cyffrous i ymddangos erioed yng Nghymru. Fe’i hailgyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru i nodi tri chanmlwyddiant geni’r emynwr blaenllaw yn 2017, a bydd D. Densil Morgan yn trafod ei gyflwyniad helaeth i’r cyhoeddiad newydd.
Mercher, 13:30
Gwarchod Enwau Lleoedd - Angharad Fychan yn sgwrsio gyda Catrin Beard am ddiogelu enwau llefydd Cymru a phwysigrwydd hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am eu hastudio, a’u perthynas ag ieithoedd, amgylchedd, hanes a diwylliant Cymru.
Iau, 13:30
Cymeriadau a straeon mewn llyfrau - Criw o athrawon ac awduron yn sgwrsio gyda Catrin Beard am y modd y gellir defnyddio cymeriadau a straeon o lyfrau plant at ddibenion addysgol.
Friday, 13:30
Rhamant Rhydychen - Dr R. Brinley Jones sy’n trafod apêl hudolus Rhydychen i genedlaethau o Gymry dros y canrifoedd.
Ar y prynhawn Iau, bydd cyfle i aelodau o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ddod ynghyd i gyfarfod â staff y Brifysgol. Bydd cynrychiolwyr o’r Brifysgol wrth law drwy’r wythnos i sgwrsio gyda chyn-fyfyrwyr, ond mae’r Brifysgol wedi neilltuo amser penodol i ganolbwyntio ar ein Cyn-fyfyrwyr a galluogi’r aelodau i holi unrhyw gwestiynau mewn amgylchedd anffurfiol, neu i hel atgofion am eu cyfnod yn y Brifysgol.
Mae rhai o Ganghennau ac Adrannau’r Cyn-fyfyrwyr hefyd yn trefnu digwyddiadau drwy gydol yr wythnos. Am hanner dydd ddydd Llun, bydd adran y Clasuron yn cynnal eu darlith flynyddol. Eleni bydd yr Adran yn coffáu ei Llywydd cyntaf ac yn dathlu ei gyfraniad fel ysgolhaig clasurol a chyfieithydd gyda’r Athro Ceri Davies, Prifysgol Abertawe yn traddodi darlith Cofio Clasurwr: Sir D Emrys Evans (1891-1966) ac estynnir croeso cynnes i bawb. Ddydd Gwener, caiff cyfrol newydd ei lansio yng nghyfres yr Adran Athroniaeth Astudiaethau Athronyddol ar stondin y Brifysgol. Mae’r gyfrol yn cynnwys casgliad o bapurau gan yr Athro John Heywood Thomas, ac fe’i cyhoeddir ar y cyd â’r Adran Diwinyddiaeth. Cynhelir y lansio am hanner dydd.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu.