Wedi ei bostio ar 9 Hydref 2015
Dros y misoedd diwethaf mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones AC wedi teithio ledled y wlad yn derbyn cwestiynau gan bobl yn eu cymunedau fel rhan o gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus.
Mae’r daith, ‘Cyfarfod Carwyn’ eisoes wedi gweld y Prif Weinidog yn ymweld â Merthyr Tudful, y Rhyl, Bangor, Casnewydd ac Aberystwyth, ac ar 15 Hydref bydd Canolfan Dylan Thomas yn ei groesawu.
Rhwng 6-7.30pm, bydd cyfle i’r gymuned leol ddweud eu dweud a gofyn y cwestiynau maen nhw am gael atebion iddyn nhw i’r Prif Weinidog. Mae’r digwyddiad am ddim ond anogir pobl sydd am ddod i gofrestru eu diddordeb ar-lein drwy Eventbrite.
Gallwch anfon eich cwestiynau at y Prif Weinidog mewn sawl ffordd. Wrth gyrraedd lleoliad, o flaen llaw drwy ebost i cabinetcommunications@wales.gsi.gov.uk neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales a’r hashnod #cyfarfodcarwyn.
Wrth sôn am y digwyddiad dywedodd y Prif Weinidog:
“Rwyf i am weld cynifer o bobl â phosib yn dod i roi gwybod i mi beth sydd ar eu meddwl. Ond nid problemau yn unig fyddwn ni’n eu trafod. Rwyf i am i’r sesiynau hyn fod yn ddigwyddiadau cadarnhaol. Rwyf i am glywed eich syniadau chi am sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i adeiladu Cymru fwy llewyrchus.
“Dyma eich cyfle chi i gyfarfod â fi a siarad â fi, i gael clust i’ch barn. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr. Welai chi yno.”
Wrth sôn am drefnu’r digwyddiad, dywedodd Rheolwr y Ganolfan Helen Hall:
“Mae Cynadleddau a Digwyddiadau 1825 yn hapus i groesawu taith y Prif Weinidog yma i Ganolfan Dylan Thomas. Mae lleoliad a chyfleusterau’r Ganolfan yn berffaith ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus a thrafodaethau bywiog, a bydd digon o lei i aelodau o’r gymuned leol ddod aton ni.”
I archebu eich lle yn y digwyddiad ewch i http://www.eventbrite.co.uk/e/cyfarfod-carwyncarwyn-connect-tickets-17688447623