Wedi ei bostio ar 27 Hydref 2015
Mae llais rygbi Cymru, bywgraffydd Ian Fleming a cherdd a gollwyd ymysg uchafbwyntiau Gŵyl Dylan Thomas eleni.
Trefnir yr ŵyl gan Gyngor Abertawe ac fe’i cynhelir yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Ardal Forwrol y ddinas. Mae’r ŵyl yn dechrau heddiw (27 Hydref) ac yn gorffen ar 9 Tachwedd.
Bydd y rhialtwch yn dechrau eleni gyda Pharti Pen-blwydd Mawr Dylan – dathliad i nodi pen-blwydd y bardd byd-enwog yn 101.
Bydd gwesteion yr ŵyl eleni yn cynnwys y darlledwr a'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru, Eddie Butler, a fydd wrth law i siarad am Gwpan Rygbi'r Byd ac i drafod ei lyfr newydd, Gonzo Davies Caught in Possession, ar 4 Tachwedd. Bydd Andrew Lycett, bywgraffydd sêr megis Dylan Thomas ac awdur James Bond, Ian Fleming, hefyd yn y digwyddiad i ddatgelu rhai o'r cyfrinachau y mae wedi eu canfod ar hyd y ffordd. Bydd yr Athro John Goodby, o Brifysgol Abertawe, yn datgelu cerdd gan Dylan Thomas a gollwyd, o'r enwA Dream of Winter, ar 3 Tachwedd.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio:
"Fel man geni Dylan Thomas, mae'n bwysig bod Abertawe'n gwneud popeth posib i ddathlu ei chysylltiadau â'n mab enwocaf.
"Mae Gŵyl Dylan Thomas bellach wedi bod yn rhan allweddol o'n calendr digwyddiadau blynyddol am sawl blwyddyn, gan roi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr ag Abertawe fwynhau digwyddiadau â ffigyrau blaenllaw'r byd celfyddydau a llenyddiaeth, doniau lleol a gweithdai addysgol.
"Bydd eleni'n dilyn yr un drefn gyda chasgliad anferth o weithgareddau a gwesteion amrywiol a fydd yn helpu i ddenu cynulleidfaoedd newydd i'r arddangosfa barhaol am Dylan Thomas, Dwlu ar y Geiriau, sy'n rhoi cyfle gwych i ymwelwyr ddysgu am fywyd a gwaith Dylan.”
Hefyd yn rhan o ŵyl eleni, bydd cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol yn canolbwyntio ar arddulliau ysgrifennu gwahanol. Bydd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys yr awdur lleol, Rebecca John, a fydd yn ymuno â'r hanesydd diwylliannol, Peter Stead, ar 7 Tachwedd i drafod Clown's Shoes- ei chasgliad cyntaf o straeon byrion arobryn.
Bydd noson o adloniant dull y 1940au hefyd yn cael ei chynnal, a gyflwynir gan y bobl sy'n gyfrifol am Bluestocking Lounge Abertawe.
Daw'r ŵyl i ben ar 9 Tachwedd gydag agoriad arddangosfa dros dro newydd o'r enw Lunch at Mussolini's: Ethel Ross a Dylan Thomas. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys cyfres o luniau a dynnwyd o Abertawe Dylan, yn ogystal â theipysgrif ar gyfer ei sgetsh Lunch at Mussolini's, a roddodd i Ethel yn y 1930au cynnar.
Ewch i www.dylanthomas.com/cy/gwyl/ am fwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau.