Cyngerdd Gala Dylan Thomas

Wedi ei bostio ar 2 Mehefin 2014
DT Gala

Siân Phillips a Dennis O'Neill

Ddydd Sadwrn 7 Mehefin, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant ei eni, bydd ein partner uno Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant yn cynnal noson o gerddoriaeth a barddoniaeth wedi’i hysbrydoli gan Dylan Thomas a’i fywyd yn Abertawe.

Bydd Cyngerdd Gala Dylan Thomas yn cynnwys darlleniadau a pherfformiadau gan Siân Phillips, Dennis O'Neill, Côr Meibion Pontarddulais ac Academi Llais Ryngwladol Cymru.

Cynhelir y noson yn Eglwys St Mary's yn Abertawe, ac mae tocynnau bellach ar gael i’w prynu ar-lein neu o’r swyddfa docynnau.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i www.uwtsd.ac.uk/cy/newyddion-a-digwyddiadau/digwyddiadau/cyngerdd-gala-dylan-thomas.php

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau