Wedi ei bostio ar 6 Awst 2015
Fel rhan o’i thrawsnewidiad parhaus wrth baratoi at uno gyda Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi Adduned Cymru er mwyn sicrhau y bydd yr asedau hanesyddol y mae’n eu dal yn parhau i fod o fudd i Gymru gyfan.
Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth elusennol annibynnol, a elwir yn Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC ym mis Chwefror 2015 i reoli’r rhoddion a’r cymynroddion niferus a dderbyniwyd gan y Brifysgol dros y blynyddoedd, ac fe’i cofrestrwyd gyda’r Comisiynydd Elusennau ym mis Mehefin 2015. Bu’r Brifysgol yn dal y ‘gwaddolion cyfyngedig’ hyn, a roddwyd dros lawer o flynyddoedd at ddibenion penodol neu i gefnogi mathau penodol o fuddiolwyr, fel ymddiriedolwr, ac ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2013/14, cyfanswm eu gwerth oedd tua £5.7 miliwn.
Bydd yr Ymddiriedolaeth newydd yn annibynnol o Brifysgol Cymru. Ar y dechrau penodir pedwar Cyfarwyddwr, a wahoddwyd gan Brifysgol Cymru i ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn ar ôl ymgynghori gyda Phrifysgolion Cymru a Chadeiryddion Addysg Uwch Cymru. Y pedwar yw Mr Dick Roberts (Cadeirydd), Syr Jon Shortridge, Mr Rob Humphreys a Mr Huw Wynne-Griffith. Penodir y Cyfarwyddwyr, y mae eu profiad yn rhychwantu ehangder y sector addysg uwch yng Nghymru, ar sail bersonol, ac nid ydynt felly’n cynrychioli buddiannau unrhyw gorff neu sefydliad.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru, Mr Alun Thomas:
“Mae Prifysgol Cymru’n falch iawn i gyhoeddi creu Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC. Dyma’r fenter gyntaf i’w chyflenwi dan Adduned Cymru, a bydd yn cynnig sicrwydd i’r gymuned ehangach y bydd y rhoddion hael hyn yn parhau i gael eu defnyddio at eu dibenion gwreiddiol yn unig.”
Hyd nes y caiff yr holl faterion eu trosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth newydd, cytunwyd y bydd y Brifysgol yn ymgynghori â’r darpar Ymddiriedolwyr ar bob mater sy’n ymwneud â rheoli’r gwaddolion cyfyngedig.
Bydd y Cyfarwyddwyr, fel y bydd ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth elusennol, yn rheoli’r gwaddolion cyfyngedig mewn modd sy’n gyson â dibenion elusennol yr Ymddiriedolaeth a bwriadau elusennol y cymwynaswyr gwreiddiol. Byddant yn gyfrifol am yr holl benderfyniadau strategol yn ymwneud â buddsoddi a rheoli’r gwaddolion cyfyngedig ac yn gosod y meini prawf ar gyfer ceisiadau am ddyfarniadau neu wobrau ac yn eu hasesu.
Mae’r canlynol ymhlith rhai o’r bobl sydd wedi derbyn gwaddolion cyfyngedig:
Hannah Minney - Yn 2013, derbyniodd Hannah Minney £1,500, sef Ysgoloriaeth Aberfan Prifysgol Cymru. A hithau’n astudio am radd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd, bu’r ysgoloriaeth yn gymorth i’w chynnal drwy gyfnod nesaf ei hastudiaethau.
Dilys Jones - Yn 2012, derbyniodd y myfyriwr aeddfed Dilys Jones £1,000, sef Ysgoloriaeth Geoffrey Crawshay. A hithau ar y pryd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant galluogodd yr ysgoloriaeth hi i deithio i gynhadledd yn Efrog Newydd a chyflwyno papur ymchwil i gyd-academyddion yn gweithio yn yr un maes.
Anthony Savagar - Yn 2012, derbyniodd Anthony Savagar £2,000, sef Ysgoloriaeth Gethyn Davies Prifysgol Cymru. Ag yntau’n astudio am PhD mewn Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd ei ddiddordebau ymchwil ym maes economeg gyfrifiannol, a galluogodd yr arian iddo barhau â’i gymwysterau rhaglennu cyfrifiadurol.
Jason Edwards - Yn 2011, dyfarnwyd £3,000 i Jason Edwards fel un o enillwyr Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones Prifysgol Cymru am ei adroddiadau ymchwiliadol ar dlodi bwyd yn America, a wnaed fel rhan o’i astudiaethau Meistr. Defnyddiodd Jason arian y wobr i gyllido rhaglen ddogfen ar y prosiect.
Mae Cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth Gorfforaethol wedi cytuno y bydd gwefan newydd yn cael ei chreu fydd yn cynnwys manylion am y strwythur newydd, a hefyd gwybodaeth am sut y gallai unigolion â diddordeb ymgeisio am ddyfarniad ysgoloriaeth neu efrydiaeth neu wobr. Bydd manylion ar gael yn fuan.
/DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth am y dyfarniadau, cysylltwch â awards@cymru.ac.uk
I gael cyfweliadau a gwybodaeth i’r cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Prifysgol Cymru drwy cyfathrebu@cymru.ac.uk