Ymddiriedolaeth Gregynog

Wedi ei bostio ar 30 Gorffennaf 2019
Gregynog Press Photo Outside 1

Neuadd Gregynog

Prifysgol Cymru’n diogelu Neuadd Gregynog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Prifysgol Cymru’n falch i gyhoeddi ei bod wedi sefydlu ymddiriedolaeth i ddiogelu gwaddol un o ystadau gwledig nodedig Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn 2012 ymrwymodd Prifysgol Cymru i ddiogelu dyfodol Neuadd Gregynog ym Mhowys a sicrhau y byddai ei gwaddol diwylliannol yn parhau i wasanaethu anghenion Cymru fel ased cenedlaethol i’w drysori.

Creodd Cyngor Prifysgol Cymru Adduned Cymru i sicrhau bod yr asedau mae’n eu dal yn parhau er budd Cymru gyfan. Roedd hyn yn cynnwys cyfres o drefniadau strategol a sefydlu ymddiriedolaethau annibynnol i ddiogelu’r gwasanaethau traddodiadol sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol. Drwy gefnogaeth Prifysgol Cymru i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Geiriadur Prifysgol Cymru, Neuadd Gregynog a Gwasg Prifysgol Cymru, mae wedi helpu i hyrwyddo a dathlu iaith, treftadaeth a diwylliant Cymru.

Rhoddwyd tŷ hynafol ac ystâd wledig Gregynog mewn ymddiriedolaeth i Brifysgol Cymru gan y chwiorydd Davies o Landinam yn 1960, ac fe’i defnyddiwyd yn bennaf gan staff a myfyrwyr prifysgol ledled Cymru, gan chwarae rôl bwysig a hwyluso cydweithio. Mae Ymddiriedolaeth Gregynog wedi’i sefydlu fel ymddiriedolaeth elusennol ac mae’n paratoi at gam nesaf y gwaith o sicrhau dyfodol llwyddiannus i Gregynog.  Mae’r Ymddiriedolaeth yn rhannu nod y Brifysgol a’i hawydd i ddiogelu Neuadd ac Ystâd Gregynog i’r genedl, dan arweiniad Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Carole-Anne Davies a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. O ganlyniad i drafodaethau manwl y Brifysgol i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Neuadd, cytunwyd gyda’r Teulu Davies y dylid trosglwyddo’r Neuadd i ofal Ymddiriedolaeth Gregynog. Mae’r Brifysgol wedi anrhydeddu ei hymrwymiad i Neuadd Gregynog o fewn Adduned Cymru yn llawn.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Gwnaeth Adduned Cymru ymrwymiad cryf i ddiogelu gwaddol Neuadd Gregynog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy sefydlu’r Ymddiriedolaeth, dan gyfarwyddyd gofalus Carole-Anne Davies, bydd Gregynog yn parhau i wasanaethu anghenion Cymru fel ased cenedlaethol i’w drysori.”

 Dywedodd yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol: “Rwyf i’n falch fod dyfodol Neuadd Gregynog wedi’i sicrhau drwy greu Ymddiriedolaeth Gregynog. Mae Cyngor y Brifysgol yn dymuno’n dda i’r Ymddiriedolaeth wrth iddi barhau i ddatblygu gwaith Neuadd Gregynog yn y dyfodol.”

 Dywedodd Carole-Anne Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gregynog: “Ystâd Gregynog yw un o asedau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pwysicaf Cymru, ac mae wedi’i hanwylo a’i gwerthfawrogi ers cenedlaethau. Mae teuluoedd Sudeley, Blayney a Davies yn eu tro wedi ymgartrefu yno gan ei gosod wrth galon eu gweithgaredd gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Yn fwyaf diweddar ac efallai’n fwyaf amlwg yn y cof cyhoeddus, dyma gartref y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies, dwy wraig ryfeddol a wnaeth gyfraniad enfawr i gyfoethogi bywydau’r Cymry, drwy’r celfyddydau, addysg a chynhwysiad diwylliannol. Gan adeiladu ar y sail hon, mae’n fraint sylweddol i Ymddiriedolwyr Gregynog dderbyn cyfrifoldeb stiwardiaeth oddi wrth y Brifysgol, gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Gwendoline a Margaret Davies. Rydym ni’n benderfynol y bydd dyfodol Gregynog yn fywiog ac yn llwyddiannus.

 Dywedodd Daniel Davies, Cadeirydd Elusen Gwendoline a Margaret Davies: “Yn Gregynog, creodd Gwendoline a Margaret Davies hafan ac ysbrydoliaeth artistig i amrywiaeth eang o bobl, yn ogystal â chanolfan bwysig i drafod a dadlau. Rydym ni wrth ein bodd fod Ymddiriedolaeth Gregynog yn parhau â’r gwaddol hwn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu parhau i gael budd o’u gweledigaeth a’u haelioni.”

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau