Penodi'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Wedi ei bostio ar 25 Ionawr 2021
ElinHafGruffuddJones-web

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones

Penodi’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o gyhoeddi fod yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones wedi’i phenodi yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Mae’r Athro Jones yn academydd adnabyddus sy’n arbenigo ar lefel ryngwladol ym maes ieithoedd lleiafrifol, sosioieithyddiaeth, polisi a chynllunio iaith, polisi diwylliannol, y cyfryngau a chyfieithu llenyddol. Ers dros ugain mlynedd, bu’n arwain prosiectau ymchwil rhyngwladol ac yn cyfarwyddo gwaith Mercator sy’n gartref i Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau.

Yn 2017, fe’i hapwyntiwyd yn aelod o Grŵp Arbenigol Cyngor Ewrop ar gyfer Siarter Ewropeaidd Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol ac er 2019 mae’n Is-lywydd ELEN (European Language Equality Network).

Cyn ymuno â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2019, bu’n darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dod yn Athro ac yn Gyfarwyddwr y Gymraeg a Diwylliant Cymru yno, gyda chyfrifoldeb am chwe adran academaidd, gan gynnwys Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Meddai’r Athro Jones:  “Mae hi’n fraint aruthrol cael arwain y Ganolfan ar gyfnod cyffrous yn ei hanes. Mae ei gwaith ymchwil a’i chyfraniad ysgolheigaidd yn eithriadol bwysig i Gymru, y Gwledydd Celtaidd ac yn rhyngwladol. Mae yma sylfeini cadarn i adeiladu ar y llwyddiant hwn, a chyfle i’r Ganolfan ymestyn ei meysydd arbenigol a chadarnhau ei lle ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gydag eleni’n ganmlwyddiant Geiriadur Prifysgol Cymru, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r afael â’r gwaith ac at gydweithio gyda’r staff ac â holl bartneriaid y Ganolfan.

Meddai’r Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: “Edrychaf ymlaen at gydweithio gydag Elin er mwyn hyrwyddo a meithrin enw da’r Ganolfan am ei hymchwil ryngwladol. Daw â phrofiad ac arbenigedd helaeth i’r rôl a fydd yn gweld y Ganolfan yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu ei meysydd arbenigol ynghyd ag ystod ei phartneriaethau cydweithredol ar draws y byd”.

 Ychwanegodd Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Brifysgol, “Rwy’n falch iawn o groesawu’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones i rôl y Cyfarwyddwr ac i ddatblygiad y Ganolfan yn y dyfodol o dan ei harweinyddiaeth. Mae’r rôl yn ganolog i ddatblygiad ysgolheictod ym meysydd Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ac i gynyddu cyfleoedd rhyngwladol sy’n gysylltiedig ag ymchwil y Ganolfan a phortffolio’r Dyniaethau ein campws yn Llambed.

 “Mae'r Athro Jones yn academydd uchel ei pharch a phrofiadol sy'n ymgymryd â'r rôl ar adeg gyffrous yn ein hanes. Byddwn yn nodi cyfraniad y Brifysgol i ysgolheictod ac addysg uwch yng Nghymru wrth inni ddathlu canmlwyddiant Geiriadur Prifysgol Cymru eleni, daucanmlwyddiant sefydlu addysg uwch yng Nghymru yn Llambed a chanmlwyddiant Gwasg Prifysgol Cymru y flwyddyn nesaf. Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle i nodi lle'r Brifysgol yn hanes addysg uwch yng Nghymru dros y ddwy ganrif ddiwethaf.”

 

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau