Wedi ei bostio ar 29 Ionawr 2015
Dros y deunaw mis nesaf bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi fersiynau digidol o rai o’i chlasuron a restrwyd gan ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel gweithiau sydd o ddefnydd arbennig ar gyfer dysgu myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ystod eang o bynciau - yn cynnwys Athroniaeth, Hanes, Y Gyfraith a Gwyddoniaeth. Bwriad y Wasg yw cyhoeddi’r gweithiau a restrwyd mewn fformat electronig am bris rhesymol i’w rhoi o fewn gafael myfyrwyr i’w prynu a’u defnyddio.
Mae’r llyfrau ar y rhestr yn cynnwys rhai o weithiau ysgolheigaidd Cymraeg mwyaf arloesol a meistrolgar yr ugeinfed ganrif - cyfieithiadau Emrys Evans o weithiau Platon; cyfrolau R. T. Jenkins ar hanes Cymru yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg; gweithiau Henry Lewis ac Arwyn Watkins ar ieithyddiaeth; ac arweinlyfrau R. I. Aaron a D. James Jones i hanes athroniaeth y cyfnod Groegaidd a’r cyfnod modern, o Socrates i Hegel. Mae’r teitlau hyn yn rhan o’r cyfoeth o gyfrolau ysgolheigaidd Cymraeg a gyhoeddwyd ers cychwyn Gwasg Prifysgol Cymru ym 1922, a bydd eu digideiddio yn eu rhoi o fewn cyrraedd cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr a myfyrwyr.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Wasg, Helgard Krause:
“Mae cyhoeddiadau yn yr iaith Gymraeg wedi bod o’r pwysigrwydd mwyaf i Wasg Prifysgol Cymru ers ei dechreuad yn y 1920au, ac rwy’n hynod o falch ein bod yn gallu gwneud defnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf i ail-gyhoeddi’r llyfrau hyn”
Bydd y llyfrau ar gael i’w prynu trwy wefan Gwasg Prifysgol Cymru.
Bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn gwneud pob ymgais i sicrhau bod awduron neu ystadau awduron y gweithiau sy’n cael eu digideiddio yn derbyn breindaliadau ar unrhyw werthiant o’r fersiynau digidol newydd o’u llyfrau. Cyhoeddwyd amryw o’r llyfrau cyn yr Ail Ryfel Byd mewn cyfnod pan nad oedd cytundebau ffurfiol ysgrifenedig rhwng awduron a chyhoeddwyr yn bodoli ym mhob achos.
Os ydych yn ysgutor ar gyfer ystâd unrhyw un o’r awduron ar y rhestr ganlynol, cysylltwch â Llion Wigley, Golygydd Comisiynu Gwasg Prifysgol Cymru, (Llion.Wigley@gwasg.cymru.ac.uk neu 02920 557445) er mwyn sicrhau talu breindaliadau i’r person cywir.