Datblygu Dylunio Bywyd er cyfoethogi profiad y myfyriwr

Wedi ei bostio ar 15 Chwefror 2016

Gan ystyried ei hymrwymiad i gynnal ei chyfranogiad mewn mentrau gwella yn sector AU Cymru, mae Prifysgol Cymru’n falch i gyhoeddi ei bod yn rhan o Pontio, Cadw Myfyrwyr a Chyrhaeddiad (Cymru) – Rhaglen Gwella Strategol 2015-16 yr Academi Addysg Uwch.

Arweinir y fenter, sy’n brosiect ar y cyd gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan yr Athro Simon Haslett, Dirprwy Is-Ganghellor (Rhyngwladol a Chyfoethogi) a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu Dylunio Bywyd ar gyfer gwella profiad y myfyriwr. Mae Dylunio Bywyd yn ymwneud ag agwedd holistaidd at ddyfodol y myfyrwyr, sy’n ystyried anghenion oes gyfan yn hytrach na chanolbwyntio ar yrfa, neu ‘gyflogadwyedd’ er enghraifft yn unig.

Fel rhan o hyn, bydd PCDDS yn cynnal Cynhadledd NEXUS Cymru, ei chynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, ar gampws Caerfyrddin. Cynhelir y gynhadledd dros ddau ddiwrnod, 23 a 24 Mawrth 2016, a gwahoddir Canolfannau Cydweithredol Prifysgol Cymru i gofrestru i ddod i’r digwyddiad.

Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod y gweithgaredd gwella sydd wedi’i gynnal yn flaenorol mewn mentrau AAU ar draws y sector wedi effeithio’n gadarnhaol ar addysgu a dysgu a thrwy gefnogi mentrau o’r fath ei nod yw cyfoethogi profiad y myfyriwr yn sector AU Cymru.

Ceir rhagor o fanylion am y gynhadledd, cyflwyno papurau a gwybodaeth cofrestru yma.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau