Wedi ei bostio ar 20 Ebrill 2015
Mae amgylchedd dysgu rhithiol newydd, y ‘Google Classroom’ ar gael i’w ddefnyddio gan staff a myfyrwyr Canolfannau Cydweithredol Prifysgol Cymru drwy lwyfan Fy Nghymru i Brifysgol Cymru.
Lansiwyd Google Classroom gan Google for Education ym mis Awst 2014 fel dewis amgen i VLEs eraill, fel Blackboard a Moodle, ac mae’n llwyfan sy’n caniatáu i diwtoriaid greu ac uwchlwytho adnoddau dysgu ar-lein, a gosod, casglu a graddio aseiniadau myfyrwyr. Gall tiwtoriaid hefyd ddefnyddio cymwysiadau Google cyfredol, fel Gmail a Google Drive i hwyluso’r gwaith o greu dogfennau a chyfathrebu gyda myfyrwyr. Bydd tiwtoriaid hefyd yn gallu darparu dolenni i fyfyrwyr yn uniongyrchol o Google Classroom at adnoddau eraill Fy Nghymru i, fel llyfrgell ar-lein helaeth y Brifysgol.
Mae’r Brifysgol yn darparu Google Classroom am ddim i Ganolfannau Cydweithredol ei ddefnyddio fel rhan o danysgrifiad y Brifysgol i’r gwasanaeth Google for Education. Ceir cyflwyniad i Google Classroom a rhagor o fanylion yma: https://www.google.co.uk/edu/training/get-trained/classroom/introduction.html