Wedi ei bostio ar 28 Ionawr 2015
Rhwng 11 a 15 Mai, bydd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (ASA) yn cynnal eu pedwaredd Raglen Sicrhau Ansawdd Ryngwladol (IQAP) i Reolwyr Ansawdd o sefydliadau y tu allan i’r DU a hoffai ddysgu mwy am sicrhau ansawdd yn y DU ac mewn gwledydd eraill. Bydd cyfranogwyr yn gallu elwa ar fewnbwn arbenigol yn ogystal â rhannu profiad â chynrychiolwyr rhyngwladol eraill.
Mae hwn yn gwrs poblogaidd, a denodd yr un diwethaf gynrychiolwyr o Ethiopia, Saudi Arabia, Oman, Malaysia, Kuwait, Brunei, Zambia, Ffrainc, Pakistan, Groeg, Sri Lanka, Fiji ac UAE.
Mae modd cofrestru nawr am y cwrs dwys pum diwrnod, gyda’r ASA yn darparu:
- cyflwyniadau ansawdd uchel gan arweinwyr ac arbenigwyr gwella ansawdd addysg uwch yn y DU
- deunyddiau astudio cynhwysfawr
- ymweliadau â sefydliadau, cyrff dyfarnu neu gyrff eraill i gynrychiolwyr allu dysgu mwy am ansawdd addysg uwch yn ymarferol
- gwybodaeth cyfarwyddo cyn ymadael
- digwyddiad rhwydweithio’n cynnwys partneriaid cydweithredol y DU
- cinio a lluniaeth ar bob un o bum diwrnod y rhaglen
- cymorth i ddod o hyd i lety
- tystysgrif presenoldeb wedi’i lofnodi gan Anthony McClaran (Prif Weithredwr yr ASA)
Cynhelir y gynhadledd yn swyddfeydd yr ASA yng nghanol Llundain, a bydd gan gynrychiolwyr bedair blynedd o brofiad rheoli o leiaf, yn ddelfrydol o fewn addysg uwch, gan weithio mewn swydd rheoli neu arwain gyda chyfrifoldeb am wella ansawdd, neu’n edrych am gyfle i ddatblygu eu gwybodaeth am ymarfer gwella ansawdd yn y sector addysg uwch.
Caiff manylion rhaglen Mai 2015 eu cyhoeddi’n fuan ac am ragor o wybodaeth a sut i ymgeisio am le a’r ffioedd, ewch i wefan yr ASA - http://www.qaa.ac.uk/newsroom/events/international-quality-assurance-programme-summer-2015
Argymhellir eich bod yn ymgeisio’n gynnar am le i osgoi siom gan fod y rhaglen wedi’i chyfyngu i 25 o gynrychiolwyr.