Wedi ei bostio ar 21 Rhagfyr 2015
Dyddiad 18-22 Ionawr 2016
Lleoliad 10-11 Carlton House Terrace, Llundain, SW1Y 5AH, y DU
Rhwng 18 a 22 Ionawr 2016, bydd yr Asiantaeth Sicrhau Addysg Safon Uwch (ASA) yn cynnal ei phumed Raglen Sicrhau Ansawdd Rhyngwladol (IQAP) i Reolwyr Ansawdd sefydliadau o’r tu hwnt i’r DU a hoffai ddysgu mwy am sicrhau ansawdd yn y DU ac mewn gwledydd eraill. Bydd cyfranogwyr yn gallu elwa ar arbenigedd yn ogystal â rhannu profiad gyda chynrychiolwyr rhyngwladol eraill.
Mae’r Rhaglen Sicrhau Ansawdd Rhyngwladol (IQAP) wedi bod yn rhedeg bellach ers tair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi helpu i hyfforddi unigolion o sectorau addysg uwch ledled y byd. Hyd yma mae’r ASA wedi croesawu cynrychiolwyr o 35 o wledydd ar draws Affrica, Asia, y Caribî, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Oceania/Awstralasia.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd yr ASA yn darparu:
- cyflwyniadau o ansawdd uchel gan arweinwyr ac arbenigwyr ym maes gwella ansawdd addysg uwch yn y DU
- deunyddiau astudio cynhwysfawr
- ymweliadau â sefydliadau, cyrff dyfarnu neu gyrff eraill i gynrychiolwyr gael dysgu mwy am ymarfer ansawdd addysg uwch
- pecyn cyfarwyddo i gynrychiolwyr cyn cyrraedd
- cyfleoedd i rwydweithio a chyfnewid ymarfer da
- tystysgrif presenoldeb wedi’i llofnodi gan Douglas Blackstock, Prif Weithredwr yr ASA
- cinio a lluniaeth ar bob un o bum diwrnod y rhaglen.
Ceir manylion pellach, gan gynnwys costau a manylion ymgeisio, ar wefan yr ASA - http://www.qaa.ac.uk/newsroom/events/international-quality-assurance-programme1#.Vm620WZFAdU