Wedi ei bostio ar 2 Mawrth 2016
Cynhadledd NEXUS Cymru 2016 yw cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar y cyd â Phrifysgol Cymru, ac fe’i cynhelir dros ddau ddiwrnod ar 23 a 24 Mawrth yng Nghaerfyrddin.
Mae Cynhadledd NEXUS Cymru yn cynnig llwyfan i ddatblygu’r cysylltiadau rhwng ymchwil, ymarfer proffesiynol ac addysgu mewn Addysg Uwch. Diffinnir cysylltiadau rhwng ymchwil ac addysgu yn eang i gynnwys ysgolheictod dysgu ac addysgu, addysgu a arweinir gan ymchwil, cyfoethogi profiad y myfyriwr, a dysgu ac addysgu’n gyffredinol. Mae’r NEXUS yn integreiddio ymchwil ar sail pwnc ac ymchwil amlddisgyblaethol gyda chwricwlwm, addysgu a dysgu.
Cadeirydd y Gynhadledd fydd yr Athro Simon Haslett PFHEA, Dirprwy Is-Ganghellor (Rhyngwladol a Chyfoethogi), a bydd yn cynnwys nifer o areithiau, symposia a gweithdai gan gynnwys themâu fel:
- Addysg ddwyieithog, gweithdy a hwylusir gan Gwenllian Beynon o’r Gyfadran Celf a Dylunio yn PCDDS a hefyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
- Bydd thema addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang (ESDGC) dan gadeiryddiaeth Dr Carolyn Hayles o INSPIRE a Grŵp Cyfoethogi ESDGC PCDDS a bydd yn cynnwys gweithdy a symposia ar ran Grwp AU Cenedlaethau'r Dyfodol ac araith gan Dr Alex Ryan (Cyfarwyddwr Cynaladwyedd ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw );
- Cydraddoldeb mewn Addysg dan gadeiryddiaeth David Egan, Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg.
- Dylunio Bywyd , sef thema a rhaglen cyfoethogi gyfredol PCDDS sydd wedi’i chynllunio i helpu myfyrwyr i wneud y gorau o’u hamser yn y brifysgol a’u paratoi at y dyfodol. Dylunio Bywyd yw cyfraniad y Brifysgol i Pontio, Cadw Myfyrwyr a Chyrhaeddiad (Cymru) – Rhaglen Gwella Strategol y sector. Cadeirydd y symposiwm fydd yr Athro Andy Penaluna (Cyfarwyddwr Ymchwil y Sefydliad Rhyngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol a chadeirydd y Grŵp Cyfoethogi Sgiliau Menter a Chyflogadwyedd yn PCDDS).
- Partneriaethau myfyrwyr, gweithdy dan arweiniad Prosiect Wise Cymru dan gadeiryddiaeth Rhys Dart, Prif Swyddog Gweithredol Undeb y Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant.
- Bydd sesiynau eraill yn cynnwys areithiau gan Luci Attala (enillydd Gwobr Hyrwyddwr Cynaladwyedd (staff) yn y Gwobrau Gŵn Gwyrdd 2015) a’r Athro Simon Haslett, gweithdy cyhoeddi academaidd a hwylusir gan Wasg Prifysgol Cymru (ac ail-lansio Cylchgrawn Addysg Cymru) symposiwm dysgu ac addysgu dan gadeiryddiaeth Dr Erietta Bissa, symposiwm addysgu dan arweiniad ymchwil a gadeirir gan Rob Charters, a gweithdy dysgu technoleg a symposiwm dan gadeiryddiaeth yr Athro Tony Toole.
Mae modd cofrestru nawr a dylai cynrychiolwyr gofrestru drwy’r ddolen hon erbyn 5pm dydd Gwener 11 Mawrth 2016.
Caiff Trafodion y Gynhadledd eu cyhoeddi maes o law fel rhifyn arbennig o Gylchgrawn Cymru ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch a chroesawir cyfraniadau gan holl gynrychiolwyr y gynhadledd.