Wedi ei bostio ar 17 Mehefin 2019
Cynhadledd Nexus Cymru yw’r gynhadledd ddysgu ac addysgu flynyddol a gynhelir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru, ac fe’i cynhelir ar Orffennaf 10-12 2019 yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe.
Cadeirydd y gynhadledd fydd yr Athro Simon Haslett, Pro Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am weithgareddau cyfoethogi a rhyngwladol. Meddai: “Dyma’r bedwaredd Gynhadledd Nexus Cymru i gael ei chynnal ar y cyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei chadeirio unwaith eto. Er mai’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru sy’n trefnu’r gynhadledd, mae’n agored i’r holl staff a myfyrwyr addysg uwch o bob rhan o Gymru a thu hwnt ac mae'n cynnig cyfle i ledaenu syniadau a rhwydweithio â chydweithwyr ynglŷn ag ymchwil sy’n seiliedig ar ddisgyblaeth ac sy’n hysbysu’r cwricwlwm, yn ogystal ag ymchwil ac ysgolheictod sy’n hysbysu dysgu ac addysgu. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at groesawu cydweithwyr i Abertawe ar gyfer digwyddiad blynyddol y mae mawr disgwyl amdano bellach”.
Mae’r gynhadledd yn darparu platfform cyffrous i ddatblygu ymhellach y cysylltiadau rhwng ymchwil, arfer proffesiynol ac addysgu mewn Addysg Uwch. Diffinnir y cysylltiadau rhwng ymchwil ac addysgu'n eang i gynnwys ysgolheictod dysgu ac addysgu, addysgu’n seiliedig ar ymchwil, cyfoethogi profiadau myfyrwyr, a rhoi sylw i ymchwil myfyrwyr. Yn ogystal â darparu fforwm ar gyfer ymchwil ac ysgolheictod yn y maes hwn, mae hefyd yn darparu cyfle am ddatblygiad proffesiynol drwy roi ffocws i ddatblygiad proffesiynol ar themâu cyfoethogi a gytunwyd, gan ganiatáu i staff unigol gadw'n gyfredol â datblygiadau newydd, adnewyddu sgiliau presennol a datblygu rhai newydd, ac adfyfyrio ar eu harfer proffesiynol yn gyffredinol.
Gwybodaeth Bellach: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/cynhadledd-nexus-cymru-2019/