Wedi ei bostio ar 11 Hydref 2019

GRADDEDIGION PRIFYSGOL Cymru, CANGEN BANGOR, RHAGLEN DDARLITHOEDD 2019 - 2020
GRADDEDIGION PRIFYSGOL Cymru, CANGEN BANGOR, RHAGLEN DDARLITHOEDD 2019 - 2020
Yr Athro Enlli Thomas fydd yn agor y gyfres gyda darlith ar y testun ‘O enau plant bychain: cymell plant i ddefnyddio’r Gymraeg’ - pwnc a drafodir yn aml y dyddiau yma. Yna bydd Is-ganghellor newydd y Coleg, Yr Athro Iwan Davies, yn trafod rhai o’i cyfleoedd a gyfyd i Brifysgolion yn yr oes gyfnewidiol hon. Yna daw Glen George, i gloi’r gyfres gyda darlith yn seiliedig ar ei lyfr, Golwg Newydd ar yr Hen Ogledd, a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl.
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Neuadd Mathias yn Yr Ysgol Gerdd, ac yn cychwyn am 6.00 p.m.
18 Hydref 2019
|
Yr Athro Enlli Thomas
|
‘O enau plant bychain: cymell plant i ddefnyddio’r Gymraeg’
|
29 Tachwedd 2019
|
Yr Is-ganghellor, Yr Athro Iwan Davies
|
‘Prifysgolion - yn goleuo’r tywyllwch - Universities- An Antidote to Darkness’
|
6 Mawrth 2020
|
Glen George
|
'Brwydrau Urien Rheged: Tystiolaeth y tir a'r testun.'
|