Bydd angen i’r holl ganolfannau cydweithredol gynnal byrddau arholi er mwyn ystyried a chadarnhau dilyniant myfyrwyr a dosbarthiadau gradd terfynol.
Mae byrddau arholi’n rhan allweddol o’r prosesau sicrhau ansawdd i sicrhau bod safonau’n gymaradwy â chynlluniau eraill ym Mhrifysgol Cymru ac yn y DU.
Caiff byrddau arholi eu trefnu’n uniongyrchol gan Brifysgol Cymru, yn ddelfrydol ar ddechrau’r sesiwn academaidd. Yr uned academaidd sy’n gyfrifol am gadarnhau dyddiad y bwrdd arholi, anfon gwahoddiadau a chydlynu’r holl drefniadau teithio. Dim ond ar ôl i’r dyddiad dderbyn cymeradwyaeth Prifysgol Cymru y gellir cynnal byrddau arholi.
CYN Y BWRDD ARHOLI
Marcio gwaith myfyrwyr
Dylai arholwyr mewnol farcio holl waith myfyrwyr. Dilynwch y canllawiau marcio dwbl a safoni gan sicrhau bod marcwyr yn rhoi sylwadau llawn. Mae’n ymarfer da bod gwaith yn cael ei farcio’n ddienw ac i farcwyr gwblhau taflenni marcio.
Arfer Annheg
Os yw arfer annheg (llên-ladrad neu gyd-dwyllo) yn cael ei amau, rhaid dilyn Gweithdrefn Arfer Annheg y Brifysgol a rhaid hysbysu’r Brifysgol a’i gwahodd i unrhyw wrandawiad.
Trosglwyddiad Arholiad
O leiaf un mis cyn y bwrdd arholi, dylai gweinyddwr y sefydliad lanlwytho trosglwyddiad arholiad. Bydd hyn yn cynhyrchu taflen farcio’r Brifysgol (ORF). Cyfeiriwch at y Canllawiau ar gyfer Cofrestru a Throsglwyddiadau Arholiadau am wybodaeth bellach.
Bwrdd arholi mewnol
Dylid cynnal bwrdd mewnol cyn y bwrdd arholi.
Amgylchiadau arbennig/eithriadol
Dylid hysbysu myfyrwyr am y broses ar gyfer cyflwyno amgylchiadau eithriadol yn y llawlyfr myfyrwyr. Dylid ystyried ceisiadau yn gyntaf yn ystod y bwrdd arholi mewnol neu mewn pwyllgor amgylchiadau arbennig.
Adolygiad o waith myfyrwyr gan arholwyr allanol
Bydd angen i arholwyr allanol adolygu sampl o holl waith myfyrwyr sydd wedi’i farcio cyn y bwrdd arholi i’w galluogi i gadarnhau’r marciau a ddyfarnwyd a gwneud sylwadau ar y broses asesu.
Os yw eich cynllun wedi’i addysgu/asesu mewn iaith ar wahân i’r Saesneg, bydd angen i chi hefyd ddarparu copïau wedi’u cyfieithu o’r asesiad a gwaith y myfyriwr.