Ceisiadau Israddedig

Cyn cofrestru ar gynllun astudio israddedig, rhaid i’r Ganolfan Gydweithredol gyflwyno Ffurflen Gais Israddedig i Brifysgol Cymru. Mae’r ffurflen hon yn caniatáu i’r Brifysgol wirio bod yr ymgeisydd wedi bodloni gofynion mynediad Prifysgol Cymru fel y’i hamlinellir yn y ddogfen cytundeb gyda’r Ganolfan Gydweithredol.

Rhaid cwblhau ffurflen gais israddedig ar gyfer pob ymgeisydd a’i dychwelyd i’r Gofrestrfa i’w phrosesu. Lle bo’n gymwys, rhaid atodi tystiolaeth o’r cymhwyster blaenorol gan gynnwys tystysgrif a thrawsgrifiad. Os yw tystysgrif a thrawsgrifiad yr ymgeisydd mewn iaith ar wahan i’r Saesneg, rhaid darparu copi wedi’i lofnodi a’i stampio gan gyfieithydd swyddogol.

DOLENNI PERTHNASOL