Matriciwleiddio Myfyrwyr

Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno ymuno â chynllun astudio ôl-raddedig Prifysgol Cymru ddiwallu gofynion matriciwleiddio’r Brifysgol, fel arfer ar sail meddu ar radd gychwynnol gydnabyddedig neu gyfatebol.

Mae Prifysgol Cymru’n cyfeirio at yr adnoddau canlynol wrth bennu’r hyn sy’n radd gychwynnol ‘gydnabyddedig’:

  • UK NARIC – asiantaeth genedlaethol sy’n gyfrifol am ddarparu gwybodaeth, cyngor a barn arbenigol ar gymwysterau galwedigaethol, academaidd a phroffesiynol o dros 180 o wledydd ledled y byd
  • Protocol Academaidd 4 Prifysgol Cymru – rhestr o Sefydliadau cymeradwy, er y dylid darllen hwn ochr yn ochr â chyngor gan NARIC
  • Cronfa ddata Adran Addysg UDA o sefydliadau a rhaglenni ôl-uwchradd achrededig ope.ed.gov/accreditation/

Nodwch, ar gyfer ceisiadau matriciwleiddio ar sail cymhwyster, y bydd y Brifysgol yn ond derbyn llungopïau o dystysgrifau gradd os yw’r dystysgrif gradd wreiddiol wedi’i gweld a’i hardystio gan aelod o staff yn y Ganolfan Gydweithredol. Os yw tystysgrifau myfyrwyr mewn iaith ar wahân i’r Saesneg, rhaid darparu fersiwn wedi’i lofnodi a’i stampio gan gyfieithydd swyddogol.

Dylai Canolfannau Cydweithredol anfon ffurflenni cais matriciwleiddio wedi’u cwblhau i’w Swyddog Cymorth dynodedig cyn dechrau’r cwrs. Caiff llythyrau eu darparu i’r Canolfannau Cydweithredol i fyfyrwyr sy’n matriciwleiddio’n llwyddiannus. Nid yw matriciwleiddio’n golygu bod y myfyriwr yn gofrestredig gyda’r Brifysgol. Rhaid cyflwyno Trosglwyddiad Cofrestru ar wahân i’r Brifysgol er mwyn cofrestru cohort o fyfyrwyr. Gweler y dudalen Cofrestru Myfyrwyr am gyfarwyddiadau.